5 ADRODDIAD CHWE MIS CWYNION A GWELLA GWASANAETH PDF 582 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan
Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi ei
fod yn adrodd ar y drefn gwynion o fewn y Cyngor. Eglurwyd fod gan y Cyngor
drefn bendant a ddiweddarwyd yn Ebrill 2021. Nodwyd pan ddiwygiwyd y drefn fod
addasiadau wedi ei gwneud ac fod y drefn bellach yn eistedd o dan yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol.
Mynegwyd fod yr adroddiad
yn adrodd ar y cwynion ffurfiol mae’r Cyngor wedi ei dderbyn ynghyd a’r cwynion
sydd wedi cyrraedd yr Ombwdsmon. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn defnyddio cwynion
i wella gwasanaethau ac i weld y tueddiadau ar draws adrannau. Amlygwyd fod nifer y cwynion wedi codi, ond fod hyn
i’w weld ar draws Llywodraeth Leol. Er fod y niferoedd wedi codi, nodwyd fod y
cwynion a oedd wedi cyrraedd yr Ombwdsmon wedi parhau yr un nifer.
Eglurwyd fod yr Ombwdsmon wedi nodi fod
ffigyrau cwynion a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ymddangos yn realistig, fod y
drefn yn gweithio ac fod y Cyngor yn amlwg yn barod i ddysgu gwersi o’r
cwynion. Pwysleisiwyd fod lle i wella ac fod angen sicrhau fod y meddylfryd fod
cwynion yn beth positif ac yn ffordd i wella gwasanaeth yn ganolog i waith y
gwasanaeth. Eglurwyd fod hyfforddiant yn cael ei greu ar ofal cwsmer ar hyn o
bryd ar y cyd gyda’r Ombwdsmon ac y bydd ar gynnal ym mis Hydref.
Tynnwyd sylw yn ogystal i’r wal lwyddiannau
sydd yn amlygu diolchiadau gan y cyhoedd ac yn arddangos gwasanaethau ar eu
gorau.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾ Ychwanegodd
y Pennaeth Adran fod yr adroddiad yn amlygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ond fod
angen parhau i adeiladau ar y cynnydd hwn.
¾ Nodwyd
fod ystadegau’r Ombwdsmon yn cynnwys cwynion swyddogol ac answyddogol ac felly
eu bod yn credu fod y nifer cwynion yn realistig. Mynegwyd drwy gyflwyno’r
ffigyrau yn llawn fod y Cyngor yn gwbl agored.
¾ Mynegwyd
fod yr adran wedi nodi 41 cwyn yn ystod pum mis cyntaf eleni, ac fod y nifer yn
ymddangos yn isel a holwyd os yw’r Cyngor yn dal pob cwyn. Eglurwyd fod y
Cyngor yn awyddus i dderbyn cwynion ac eu bod yn ceisio bod yn agored drwy
dderbyn cwynion drwy amrywiol ffyrdd, ac felly yn cyrraedd nifer uchel o
unigolion.
¾ Amlygwyd
pryderon nad yw’r Cyngor yn dal pob cwyn a holwyd os oedd cwynion Cynghorwyr yn
cael ei cynnwys yn y niferoedd yma. Nodwyd fod angen i’r Aelodau Cabinet gael eu tynnu i mewn i
gwynion fel eu bod yn ymwybodol ohonynt yn gynt yn y broses yn ogystal.
¾ Pwysleisiwyd
fod Llythyr yr Ombwdsmon yn nodi fod y flwyddyn hon wedi bod yn un cwbl wahanol
ac felly fod angen cymryd hyn i ystyriaeth pan yn trafod yr eitem hon.
Awdur: Geraint Owen