Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/10/2021 - Y Cabinet (eitem 8)

8 RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2021) o’r

rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £25,837,000 o 2020/21,

·         cynnydd o £61,000 mewn defnydd o fenthyca,

·         cynnydd o £9,959,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,

·         cynnydd o £69,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,

·         cynnydd o £1,482,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,

·         cynnydd o £21,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a

·         cynnydd o £807,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2021) o’r  

rhaglen gyfalaf. 

 

Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: 

·         defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o    £25,837,000 o 2020/21, 

·         cynnydd o £61,000 mewn defnydd o fenthyca, 

·         cynnydd o £9,959,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, 

·         cynnydd o £69,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, 

·         cynnydd o £1,482,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, 

·         cynnydd o £21,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a 

·         cynnydd o £807,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a gofyn am gymeradwyaeth i’r ffynonellau ariannu perthnasol. Eglurwyd fod dadansoddiad i’w gweld yn yr adroddiad o’r rhaglen gyfalaf o £124.0 miliwn am y dair blynedd nesaf.

 

Eglurwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £71.6 miliwn eleni gyda £26.1 miliwn wedi ei ariannu drwy grantiau penodol. Mynegwyd fod argyfwng Covid yn parhau ar y rhaglen Gyfalaf gyda dim ond 16% o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Awst, o’i gymharu a 13% dros yr un cyfnod y llynedd a 19% ddwy flynedd yn ôl.

 

Nodwyd fod £9.1m o wariant arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2021/22 i 2022/23 a 2023/24 ac amlygwyd y prif gynlluniau a oedd yn cynnwys Ysgolion Ganrif 21, Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a Cynlluniau Rheoli Carbon y Cyngor. Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi eu denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant Targedu Buddsoddiad i gynllun Nyth ym Mangor a Grantiau Llywodraeth Cymru i’r Maes Gofal Plant.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cynlluniau cyffroes megis  Economi Gylchol sydd yn nifer o grantiau. Amlygwyd balchder yn gweld cynllun Nyth sydd wedi derbyn grantiau ac yn mynd i gynnig cyfleodd cyffroes a creadigol ym Mangor.

¾    Croesawyd yr arian ar gyfer unedau diwydiannol gan fod llawer o alw am yr unedau.

¾    Amlygwyd pryder am costau nwyddau adeiladu ynghyd a sgiliau yn y maes adeiladu. Holwyd os oes unrhyw bryder am wario y buddsoddiadau o ganlyniad i’r pryderon yma. Nodwyd fod tendrau yn dod yn ôl yn llawer uwch, ond eglurwyd fod y rhagolygon yn amlygu eu bod dros dro ac felly fod rhai meysydd yn dal yn ôl ar gynlluniau ac yn blaenoriaethu yn ôl yr angen. 

¾    Mynegwyd fod angen llongyfarch y Cyngor am y gwariant cyfalaf yn sefydlu asedau i’r Cyngor. Pwysleisiwyd fod cynlluniau yn y Cynllun Gweithredu Tai yn wariant aruthrol dros y tair blynedd nesaf.

¾     It was stated that the Council should be congratulated for the capital expenditure to establish assets for the Council.  It was emphasised that the schemes in the Housing Action Plans would be a huge expenditure over the next three years.

Awdur: Ffion Madog Evans