Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/10/2021 - Y Cabinet (eitem 9)

9 TROSOLWG ARBEDION 2021/22 pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau

arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cytunwyd i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.

 

 Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn

ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio

perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau  arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol. 

 

Cytunwyd i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.  

 

 Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y  Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn  ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio  perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro ei fod yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers 2015/16 fod gwerth £35m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu rhwng 2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach fod dros £32.7miliwn o arbedion wedi ei gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

 

Mynegwyd ym mis Ionawr eleni, adolygwyd y cynlluniau arbedion i asesu pa gynlluniau hanesyddol oedd bellach yn anghyraeddadwy, a lluniwyd rhaglen diwygiedig ar gyfer 2021/22 yn dilyn cymryd camau i ddileu, llithro a ail broffilio’r cynlluniau arbedion.

 

Eglurwyd fod adrannau wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i argyfwng covid ers Ebrill 2020 ac fod yr effaith wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion. Mynegwyd o gynlluniau arbedion 2021/22 fod 42% eisoes wedi ei gwireddu gyda 22% bellach ar drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Pwysleisiwyd ei bod anorfod fod gwireddu gwerth £32.7m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Mynegwyd fod oediad wedi bod ar rai cynlluniau arbedion gwerth £1m ond eu bod yn symud yn eu blaen ond fod angen trafod risgiau i gyflawni gwerth £0.9m o gynlluniau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Mynegwyd fod effaith covid wedi bod yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ond fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar gynlluniau i’r dyfodol. Ychwanegwyd fod yr adran yn parhau i dalu am yr offer Cylch Cyfyng ond bydd arbedion unwaith fydd y gost wedi ei dalu. Eglurwyd yn ogystal fod astudiaeth allanol yn cael ei wneud gyda cau Canolfan Ailgylchu Cilgwyn ac fod nifer o gynlluniau posib i’r safle.

¾      Nodwyd yr angen i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen.  

 

Awdur: Dafydd L Edwards