5 CYLLIDEB GWE 2021-2022 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 PDF 404 KB
Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
Cofnod:
TRAFODAETH:
Adroddwyd
mai adolygiad cychwynnol yw hwn a rhagwelir tanwariant net o (£48,805) erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol 2021/22. Ategwyd nad oes materion wedi codi yn ystod
y broses monitro chwarter 1 sy’n codi pryder.
Adroddiad monitro cyntaf y
flwyddyn yw hwn, sy’n edrych ar gwir gostau hyd at ddiwedd Mehefin ynghyd ac
amcan gwariant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan obeithio bydd y sefyllfa
yn fwy clir erbyn yr adolygiad chwarter nesaf.
Amcangyfrifir cronfa
cyffredinol gwerth £612,335 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, sy’n sefyllfa
gadarnhaol i fod ynddo.
Nodwyd bod diffyg incwm
mewnol wedi bod o fewn y maes rhenti, gan nad oes modd ddefnyddio adeiladau GwE
i redeg cynlluniau sy’n cael ei talu allan o grantiau. Yn ogystal, nodwyd bod
defnydd cludiant wedi ailgychwyn, ond nid yn ôl i lefelau arferol a disgwylir
tanwariant oherwydd hyn.