6 CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-2022 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 PDF 368 KB
Cyflwyno
adroddiad monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-2022 GwE i'r
Cyd-Bwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad monitro ar
gyfer chwarter 1.
Cofnod:
TRAFODAETH:
Cyflwynwyd
y papur gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi bod amgylchiadau yn mynd i arafu
neu gyflymu rhai o’r gweithredoedd a nodwyd.
Tynnwyd sylw'r aelodau at y data i gefnogi’r prif amcanion a chyfeiriodd
at ba ymgysylltu sydd wedi bod ar y wahanol gynigion. Nododd bod hyn yn berthnasol i aelodau adrodd
yn ôl yn eu Pwyllgorau Craffu Addysg.
Parhaodd i nodi bod cludiant yn dechrau cynyddu o gymharu â’r
flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cyfeiriwyd at eitemau megis y cwricwlwm, anghenion
dysgu ychwanegol a phwysleisiodd bod angen sensitifrwydd gydag amgylchiadau
ysgolion yn y cyfnod anodd hwn.
Nodwyd bod Estyn
wedi ailgychwyn arolygu o ddechrau’r tymor yma yn bennaf o fewn ysgolion sy’n
peri pryder.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
-
Nodwyd bod Penaethiaid yn wynebu heriau
ymgysylltu oherwydd yr amgylchiadau presennol.
-
Ategwyd bod enghreifftiau o fewn ysgolion lle
mae Pennaeth yn dysgu oherwydd prinder staffio.
-
Cyfeiriwyd hefyd at brinder staffio mewn
ysgolion arbennig lle mae gan blant anghenion dwys sy’n creu anawsterau
sylweddol.
-
Nodwyd bod pwysau pellach gydag Estyn yn
ailgychwyn arolygu yn creu pryder i sawl ysgol.