Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/09/2021 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 6)

6 CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-2022 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-2022 GwE i'r Cyd-Bwyllgor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 1.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd y papur gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi bod amgylchiadau yn mynd i arafu neu gyflymu rhai o’r gweithredoedd a nodwyd.  Tynnwyd sylw'r aelodau at y data i gefnogi’r prif amcanion a chyfeiriodd at ba ymgysylltu sydd wedi bod ar y wahanol gynigion.  Nododd bod hyn yn berthnasol i aelodau adrodd yn ôl yn eu Pwyllgorau Craffu Addysg.

 

Parhaodd i nodi bod cludiant yn dechrau cynyddu o gymharu â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cyfeiriwyd at eitemau megis y cwricwlwm, anghenion dysgu ychwanegol a phwysleisiodd bod angen sensitifrwydd gydag amgylchiadau ysgolion yn y cyfnod anodd hwn. 

 

Nodwyd bod Estyn wedi ailgychwyn arolygu o ddechrau’r tymor yma yn bennaf o fewn ysgolion sy’n peri pryder.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Nodwyd bod Penaethiaid yn wynebu heriau ymgysylltu oherwydd yr amgylchiadau presennol. 

-          Ategwyd bod enghreifftiau o fewn ysgolion lle mae Pennaeth yn dysgu oherwydd prinder staffio. 

-          Cyfeiriwyd hefyd at brinder staffio mewn ysgolion arbennig lle mae gan blant anghenion dwys sy’n creu anawsterau sylweddol. 

-          Nodwyd bod pwysau pellach gydag Estyn yn ailgychwyn arolygu yn creu pryder i sawl ysgol.