7 ADRODDIADAU HUNAN ARFARNU YSGOLION PDF 268 KB
Cyflwyno’r
adroddiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a) Derbyn
a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad ynghyd â’r blaenoriaethau rhanbarthol lefel
uchel..
b) Cydnabod
yr ymrwymiad mae swyddogion GwE wedi’i ddarparu i sefydliadau addysgol ar draws
y Gogledd yn ystod y cyfnod pandemig.
Cofnod:
TRAFODAETH:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a rhoddwyd trosolwg o sut mae ysgolion ac UCD
yng Ngogledd Cymru wedi ymateb i COVID-19.
Nododd bod staff GwE
wedi bod yn cefnogi ysgolion er mwyn arfarnu ansawdd ac effaith eu darpariaeth
yn ystod y cyfnod clo fel rhan o’u rhaglen waith.
Mae’r adroddiad yn rhoi
trosolwg o’r trafodaethau gyda’r ysgolion, ynghyd â’r meysydd sydd angen eu
datblygu a'u cefnogi ymhellach.
Ategwyd bod ysgolion
wedi dysgu llawer o’r cyfnod clo cyntaf ac felly bod y ddarpariaeth yn ystod yr
ail gyfnod wedi adeiladu ar hyn.
Tynnwyd sylw'r aelodau
at y blaenoriaethau rhanbarthol sydd wedi codi o’r adroddiad a rhoddwyd
trosolwg ohonynt.
Cyfeiriwyd at eiriau’r
Gweinidog Addysg ar dudalen 63 y rhaglen, sef:
'bydd yn ofynnol i
bob ysgol a darparwr ôl-16 barhau i gynnal hunanwerthusiad effeithiol ar gyfer
gwella'n barhaus. Mae ein trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ni’n
gofyn iddynt ystyried ystod eang o wybodaeth sy’n berthnasol i gyd-destun yr
ysgol ei hun wrth hunanwerthuso a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Golyga
hyn y bydd ysgolion, gyda chymorth yr awdurdodau lleol a'r consortia
rhanbarthol, yn defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt ar lefel disgyblion am
gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a'u
gwella.'
Nododd
bydd GwE yn cefnogi ysgolion i gyflawni hyn.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
-
Diolchwyd i swyddogion GwE am weithio gyda’r
Awdurdodau Lleol a’r Penaethiaid Addysg er mwyn hyrwyddo cydweithio.
-
Ategwyd bod yr adborth o fewn yr adroddiad yn
wych a chyfeiriwyd at yr holl gymorth sydd wedi bod ar bob lefel.
-
Cyfeiriwyd at bryder rhai o’r aelodau am yr
anghysondebau a’r amrywiaeth yn y ddarpariaeth gan ysgolion. Cyfeirir at hyn o fewn yr adroddiad ac
ategwyd bod rhannu arferion da yn dangos bod hyn yn cael sylw.
-
Ategodd aelod bod angen cyfathrebu da ac amserol
fel bod penaethiaid yn gallu ymateb i unrhyw heriau.
Mewn ymateb i’r sylwadau,
ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:
-
Nodwyd y pwysigrwydd bod ysgolion yn ymwybodol o
beth yw’r model asesu boed hynny’n asesiad athro, neu ganolfan neu’n arholiad.
-
Mai’r brif neges yw bod ysgolion yn ymwybodol
o’r mecanweithiau sydd eu hangen mewn lle i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni
eu potensial.