Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/09/2021 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 7)

7 ADRODDIADAU HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno’r adroddiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

a)    Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad ynghyd â’r blaenoriaethau rhanbarthol lefel uchel..

b)    Cydnabod yr ymrwymiad mae swyddogion GwE wedi’i ddarparu i sefydliadau addysgol ar draws y Gogledd yn ystod y cyfnod pandemig.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a rhoddwyd trosolwg o sut mae ysgolion ac UCD yng Ngogledd Cymru wedi ymateb i COVID-19.

 

Nododd bod staff GwE wedi bod yn cefnogi ysgolion er mwyn arfarnu ansawdd ac effaith eu darpariaeth yn ystod y cyfnod clo fel rhan o’u rhaglen waith.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r trafodaethau gyda’r ysgolion, ynghyd â’r meysydd sydd angen eu datblygu a'u cefnogi ymhellach.

 

Ategwyd bod ysgolion wedi dysgu llawer o’r cyfnod clo cyntaf ac felly bod y ddarpariaeth yn ystod yr ail gyfnod wedi adeiladu ar hyn.

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at y blaenoriaethau rhanbarthol sydd wedi codi o’r adroddiad a rhoddwyd trosolwg ohonynt.

 

Cyfeiriwyd at eiriau’r Gweinidog Addysg ar dudalen 63 y rhaglen, sef:

 

'bydd yn ofynnol i bob ysgol a darparwr ôl-16 barhau i gynnal hunanwerthusiad effeithiol ar gyfer gwella'n barhaus. Mae ein trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ni’n gofyn iddynt ystyried ystod eang o wybodaeth sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol ei hun wrth hunanwerthuso a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Golyga hyn y bydd ysgolion, gyda chymorth yr awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol, yn defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt ar lefel disgyblion am gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a'u gwella.'

 

Nododd bydd GwE yn cefnogi ysgolion i gyflawni hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Diolchwyd i swyddogion GwE am weithio gyda’r Awdurdodau Lleol a’r Penaethiaid Addysg er mwyn hyrwyddo cydweithio.

-          Ategwyd bod yr adborth o fewn yr adroddiad yn wych a chyfeiriwyd at yr holl gymorth sydd wedi bod ar bob lefel.

-          Cyfeiriwyd at bryder rhai o’r aelodau am yr anghysondebau a’r amrywiaeth yn y ddarpariaeth gan ysgolion.  Cyfeirir at hyn o fewn yr adroddiad ac ategwyd bod rhannu arferion da yn dangos bod hyn yn cael sylw.

-          Ategodd aelod bod angen cyfathrebu da ac amserol fel bod penaethiaid yn gallu ymateb i unrhyw heriau.

 

                     Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-          Nodwyd y pwysigrwydd bod ysgolion yn ymwybodol o beth yw’r model asesu boed hynny’n asesiad athro, neu ganolfan neu’n arholiad.

-          Mai’r brif neges yw bod ysgolion yn ymwybodol o’r mecanweithiau sydd eu hangen mewn lle i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial.