8 PROSESAU A STRWYTHURAU RHANBARTHOL AR GYFER CEFNOGI A HERIO YSGOLION SY'N DESTUN PRYDER PDF 378 KB
Rhannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd
Bwyllgor am esblygu strwythurau a phrosesau rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy'n
destun pryder.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.
Cofnod:
TRAFODAETH:
Cyflwynwyd yr adroddiad
sy’n dal yn gryno y gwaith dros y Gwanwyn a’r Haf er mwyn grymuso ymhellach yr
arweiniad a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion sy’n achosi pryder.
Nododd bod y papur yn
berthnasol i ganran o’r ysgolion er mwyn iddynt sicrhau mwy o berchenogaeth ac
atebolrwydd am eu taith gwella a’i wneud o fewn fframwaith o gydweithio mewn
clystyrau a chynghreiriau.
Cydnabuwyd bod rhai
ysgolion angen cymorth mwy cynhwysfawr a dwys, yn arbennig rhai sydd mewn
categori statudol neu’n cael eu hadnabod fel rhai mewn peryg o ddisgyn i mewn
i’r categori statudol.
Bydd system rhybudd
cynnar yn galluogi GwE ac awdurdodau i ymyrryd yn gynnar. Aethpwyd ati i egluro
bod cyswllt rheolaidd gyda swyddogion o fewn yr ysgolion yn ddefnyddiol i rannu
gwybodaeth a chydweithio ar y cynlluniau. Ar hyn, nodwyd nad Ymgynghorydd
Cefnogi Gwelliant fydd gan yr ysgolion yma ond tîm cyfan i’w harwain.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
-
Diolchwyd am yr adroddiad amserol sy’n
adlewyrchu proses sydd ei angen i roi cymorth i ysgolion sy’n achosi pryder.
-
Adnabuwyd y pwysigrwydd i gefnogi ysgolion ond
hefyd y gwaith sydd angen ei wneud iddynt fod yn hunangynhaliol.
-
Holodd aelod ynghylch y data o’r graff a
gofynnwyd a fydd ystyriaeth i statws ysgol wrth nodi beth yw cyrhaeddiad y
disgyblion.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd y Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE:
-
Bod y dyddiau o ddata craidd ynglŷn â
chyrhaeddiad wedi’i addasu gan fod y cwricwlwm newydd yn gofyn am fframwaith
ansoddol a mwy holistaidd. Ategodd y
bydd hyn yn fodd o nodi cyflawniad dysgwyr o waelodlin fwy unigryw.