Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/09/2021 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 8)

8 PROSESAU A STRWYTHURAU RHANBARTHOL AR GYFER CEFNOGI A HERIO YSGOLION SY'N DESTUN PRYDER pdf eicon PDF 378 KB

Rhannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd Bwyllgor am esblygu strwythurau a phrosesau rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy'n destun pryder.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad sy’n dal yn gryno y gwaith dros y Gwanwyn a’r Haf er mwyn grymuso ymhellach yr arweiniad a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion sy’n achosi pryder.

 

Nododd bod y papur yn berthnasol i ganran o’r ysgolion er mwyn iddynt sicrhau mwy o berchenogaeth ac atebolrwydd am eu taith gwella a’i wneud o fewn fframwaith o gydweithio mewn clystyrau a chynghreiriau.

 

Cydnabuwyd bod rhai ysgolion angen cymorth mwy cynhwysfawr a dwys, yn arbennig rhai sydd mewn categori statudol neu’n cael eu hadnabod fel rhai mewn peryg o ddisgyn i mewn i’r categori statudol. 

 

Bydd system rhybudd cynnar yn galluogi GwE ac awdurdodau i ymyrryd yn gynnar. Aethpwyd ati i egluro bod cyswllt rheolaidd gyda swyddogion o fewn yr ysgolion yn ddefnyddiol i rannu gwybodaeth a chydweithio ar y cynlluniau. Ar hyn, nodwyd nad Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant fydd gan yr ysgolion yma ond tîm cyfan i’w harwain.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Diolchwyd am yr adroddiad amserol sy’n adlewyrchu proses sydd ei angen i roi cymorth i ysgolion sy’n achosi pryder.

-          Adnabuwyd y pwysigrwydd i gefnogi ysgolion ond hefyd y gwaith sydd angen ei wneud iddynt fod yn hunangynhaliol.

-          Holodd aelod ynghylch y data o’r graff a gofynnwyd a fydd ystyriaeth i statws ysgol wrth nodi beth yw cyrhaeddiad y disgyblion. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-          Bod y dyddiau o ddata craidd ynglŷn â chyrhaeddiad wedi’i addasu gan fod y cwricwlwm newydd yn gofyn am fframwaith ansoddol a mwy holistaidd.  Ategodd y bydd hyn yn fodd o nodi cyflawniad dysgwyr o waelodlin fwy unigryw.