Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/09/2021 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 10)

10 Y GYMRAEG - CYNLLUNIAU CLWSTWR A PHROSIECT LLAFAREDD 'EIN LLAIS NI' pdf eicon PDF 518 KB

Rhannu gwybodaeth am y trefniadau a’r cynlluniau ar gyfer dau brif ffrwd gwaith y cynllun busnes ar gyfer y Gymraeg eleni – trefniadau ar gyfer y Cynlluniau Clwstwr a Phrosiect Llafaredd ‘Ein Llais Ni’.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu’r prosiect yn unol â’r targedau a osodwyd gan Llywodraeth Cymru.

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y trefniadau a’r cynlluniau ar gyfer dau brif ffrwd gwaith y cynllun busnes ar gyfer y Gymraeg eleni – trefniadau ar gyfer y Cynlluniau Clwstwr a Phrosiect Llafaredd ‘Ein Llais.

 

Trafodwyd y ffrwd gyntaf sef y cynlluniau clwstwr gan nodi’r amcanion o hyrwyddo cyfarfodydd clwstwr, datblygu sgiliau Cymraeg ac annog cydweithio rhwng y Cynradd ac Uwchradd. Nododd y bydd tri Ymgynghorydd ym mhob ardal yn gweithio’n agos efo’r Awdurdodau Lleol i sicrhau cefnogaeth.

 

O ran yr ail ffrwd, Prosiect Llais Ni – eglurodd bod y prosiect wedi ei hariannu yn dilyn cais i Lywodraeth Cymru i hyrwyddo llafaredd Cymraeg a mireinio sgiliau siarad y dysgwyr.

 

Nodwyd bod y prosiect wedi ei gynllunio’n agos gyda’r Athro Enlli Thomas, Prifysgol Bangor a bydd Swyddog Ymchwil ar gyfer y prosiect.  Parhaodd i nodi bod y broses gynllunio wedi digwydd ac hysbysiad wedi ei anfon i ysgolion. Ategodd bod bwrdd llywio ar fin ei sefydlu i oruchwylio’r prosiect ac adrodd yn ôl i’r Llywodraeth.

 

Rhannwyd y bydd cynhadledd lansio ar yr 20fed Hydref i ysbrydoli ysgolion a rhannu strategaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Nododd bod yr awdurdodau yn brysur yn cynllunio eu hadroddiadau CSGA; gwerthfawrogir bob cymorth i hyrwyddo’r Gymraeg.

-          Holwyd os oes bwriad i adrodd yn ôl yn y dyfodol ar effaith y gweithgareddau sydd wedi bod i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein hysgolion.

-          Diolchwyd am yr adroddiad amserol yn sgil dirywiad sydd wedi bod yn nefnydd y Gymraeg o fewn yr ysgolion oherwydd y cyfnod clo a hyn mewn cadarnleoedd ieithyddol Cymraeg.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-          Bod sgyrsiau ar waith am ddefnyddioldeb posib cyflwyno adroddiad i’r Cydbwyllgor er mwyn i’r aelodau weld y ffrydiau gwaith sydd yn bodoli i gefnogi hyrwyddo’r Gymraeg mewn ysgolion.