8 Cais Rhif C21/0647/17/DT 1 Tai Trallwyn, Cilgwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7SB PDF 302 KB
Cais i adeiladau
Sied a Swyddfa at flaen tŷ annedd
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol gyda chynlluniau.
3. Defnydd atodol i’r tŷ annedd.
Cofnod:
Cais
i adeiladau sied a swyddfa at flaen tŷ annedd
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
bod y cais yn cael ei gyflwyno
i Bwyllgor gan fod yr
ymgeisydd yn gyflogedig i Adran
Gynllunio Cyngor Gwynedd a bod angen
caniatâd cynllunio oherwydd bod y bwriad yn golygu codi
adeiladu o flaen prif edrychiad y tŷ.
Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn
a chyfeiriwyd at Polisi
PCYFF3 sy’n datgan bod disgwyl i bob cynnig
arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n
rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun
yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un syml ac o faint bychan sy’n adlewyrchu
strwythurau tebyg a ddisgwylir gweld fel defnydd atodol
o fewn ardd tŷ annedd. Mae’r strwythurau
dan sylw yn guddiedig, tu ôl
i wrychoedd uchel ar waelod
ardd sydd ar ddiwedd rhes
o dai ac yn gweddu’n briodol gyda’i leoliad.
Tynnwyd sylw at Polisi
PCYFF 2 sy'n annog gwrthod cynigion fydd yn cael
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau
eiddo lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan gymdogion yn dilyn
gosod rhybudd safle ac wedi ystyried
yr holl faterion
perthnasol cynllunio, ni fyddai niwed
arwyddocaol ychwanegol i fwynderau cymdogion,
na’r ardal yn gyffredinol, yn deillio o’r
datblygiad. Ystyriwyd fod y bwriad o osod sied a swyddfa
at flaen tŷ annedd yn dderbyniol
ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r bwriad
·
Bod y safle yn guddiedig a’r gwrychoedd
yn uchel
·
Dim gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
PENDERFYNWYD:
Caniatáu y cais
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol gyda chynlluniau.
3. Defnydd
atodol i’r tŷ annedd