Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 9)

9 Cais Rhif C21/0085/18/LL Maes Carafanau Tros Y Waen Lôn Castell, Rhiwlas, Bangor, Gwynedd, LL57 4EF pdf eicon PDF 343 KB

Ail-ddylunio lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán teithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais.

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/dogfennau.
  3. Tymor gwyliau parthed y 5 carafán deithiol ychwanegol - 1af Mawrth - 31ain Hydref.
  4. Cynllun tirlunio.
  5. Mesurau lliniaru o fewn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol.
  6. Amod cyfyngu deiliadaeth yr unedau statig a teithiol i ddefnydd gwyliau yn unig.
  7. Cyfyngu ar niferoedd unedau statig i 8 (gan eithrio llety’r rheolwr/staff) a’r unedau teithiol i 50.
  8. Dim storio carafanau teithiol oni bai bod caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei dderbyn.
  9. Dim torri coed.

 

Cofnod:

Ail-ddylunio lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán deithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer ail-ddylunio lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán deithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol ar safle Maes Carafanau Tros y Waen a sefydlwyd yn ôl yn 1979. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys yr elfennau canlynol:-

 

     Gwella’r cyfleusterau ymolchi/toiledau presennol sydd ar y safle.

     Gosod cyfarpar offer trin carthion preifat ar ymylon gorllewinol y safle.

     Ymgymryd â gwaith tirlunio (coed a llwyni) o fewn y safle.

     Lledu’r rhodfa breifat sy’n gwasanaethu’r maes carafanau lle bo angen.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod ardal y datblygiad yn fwy na’r hyn a ganiateir o dan y drefn dirprwyo.

 

Ategwyd bod diwygiadau i’r cais a gyflwynwyd yn wreiddiol yn cynnwys man addasiadau tirlunio gan gynnwys cadw coed yn ogystal â chadarnhau gwneuthuriad y lleiniau.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli i’r de-orllewin o bentref Rhiwlas yng nghefn gwlad agored gyda sgrin ar ffurf Coedlan Tros y Waen ar ymylon dwyreiniol, deheuol a gorllewinol y safle. Er bod yr ymylon gogleddol yn fwy agored a gweledol o’r gogledd-orllewin mae wal garreg ynghyd a thopograffi’r dirwedd leol yn lleihau’r olygfa. Nodwyd bod y safle yn rhannu mynediad gydag anheddau preswyl gerllaw.

 

O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion a nodir yn yr adroddiad ac na fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cynllun cyn belled bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda’r gofynion / amodau a restrwyd

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD:  Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais.

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau/dogfennau.

3.    Tymor gwyliau parthed y 5 carafán deithiol ychwanegol - 1af Mawrth - 31ain Hydref.

4.    Cynllun tirlunio.

5.    Mesurau lliniaru o fewn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol.

6.    Amod cyfyngu deiliadaeth yr unedau statig a teithiol i ddefnydd gwyliau yn unig.

7.    Cyfyngu ar niferoedd unedau statig i 8 (gan eithrio llety’r rheolwr/staff) a’r unedau teithiol i 50.

8.    Dim storio carafanau teithiol oni bai bod caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei dderbyn.

9.    Dim torri coed.