Ail-ddylunio
lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán teithiol ychwanegol
a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais.
Cofnod:
Ail-ddylunio
lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán deithiol ychwanegol
a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol
a) Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd ar gyfer ail-ddylunio
lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán
deithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli
lleiniau carafanau teithiol presennol ar safle Maes
Carafanau Tros y Waen a sefydlwyd yn ôl yn
1979. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys
yr elfennau canlynol:-
• Gwella’r
cyfleusterau ymolchi/toiledau presennol sydd ar y safle.
• Gosod
cyfarpar offer trin carthion preifat ar ymylon gorllewinol
y safle.
• Ymgymryd
â gwaith tirlunio (coed a llwyni) o fewn y safle.
• Lledu’r
rhodfa breifat sy’n gwasanaethu’r maes carafanau lle bo angen.
Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor oherwydd bod ardal y datblygiad yn fwy na’r
hyn a ganiateir o dan y drefn dirprwyo.
Ategwyd
bod diwygiadau i’r cais a gyflwynwyd yn wreiddiol yn
cynnwys man addasiadau tirlunio gan gynnwys
cadw coed yn ogystal â chadarnhau
gwneuthuriad y lleiniau.
Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli i’r
de-orllewin o bentref Rhiwlas yng nghefn
gwlad agored gyda sgrin ar
ffurf Coedlan Tros y Waen ar
ymylon dwyreiniol, deheuol a gorllewinol y safle. Er bod yr
ymylon gogleddol yn fwy agored
a gweledol o’r gogledd-orllewin mae wal garreg ynghyd
a thopograffi’r dirwedd leol yn lleihau’r
olygfa. Nodwyd
bod y safle yn rhannu mynediad gydag anheddau preswyl gerllaw.
O ystyried yr holl faterion
cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r sylwadau
a dderbyniwyd, ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion a nodir yn yr adroddiad
ac na fyddai’n cael effaith niweidiol
sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch
ffyrdd.
b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r cynllun
cyn belled bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio
gyda’r gofynion / amodau a restrwyd
c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais.
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau/dogfennau.
3.
Tymor gwyliau parthed y 5 carafán
deithiol ychwanegol - 1af Mawrth - 31ain Hydref.
4.
Cynllun tirlunio.
5.
Mesurau lliniaru o fewn yr Asesiad
Ecolegol Rhagarweiniol.
6.
Amod cyfyngu deiliadaeth yr unedau
statig a teithiol i ddefnydd gwyliau yn unig.
7.
Cyfyngu ar niferoedd unedau statig i 8
(gan eithrio llety’r rheolwr/staff) a’r unedau teithiol i 50.
8.
Dim storio carafanau teithiol oni bai
bod caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei dderbyn.
9.
Dim torri coed.