Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel
a ganlyn:-
1.
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl
Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu
Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen.
2. Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl
Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu
Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen.
2.
Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth
San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau
banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd
Iwerddon.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
1.
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi
Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er
dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen.
2. Bod y Cyngor yn galw
ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru
creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un
modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig gan olrhain rhywfaint o hanes ein nawddsant a’i
arwyddocâd i ni’r Cymry, gan hefyd bwysleisio mai diben y cynnig oedd ceisio
adfer rhywfaint o hunan-barch o ran ein arwahanrwydd a’n hunaniaeth fel
cenedl.
Nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol:-
·
Ei bod yn llwyr gytuno
â’r egwyddor, ac yn cefnogi’r alwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl
banc yng Nghymru.
·
O ran rhan gyntaf y cynnig, pe byddai’r Cyngor yn
darparu diwrnod ychwanegol o wyliau i staff, roedd yn bwysig nodi nad oedd modd
i’r Cyngor ddarparu’r diwrnod hwnnw i rai staff, ac nid i staff eraill sy’n
gweithio o dan yr un amodau a thelerau gwaith.
Byddai’n rhaid darparu’r diwrnod ychwanegol i’r staff hynny fyddai wrth
eu gwaith ar Ddydd Gŵyl Dewi er mwyn ei gymryd ar ddiwrnod arall yn ystod
y flwyddyn, a byddai cost ynghlwm â hynny os mai’r dymuniad oedd darparu
diwrnod ychwanegol i’r pwrpas yma. Os mai’r
dymuniad oedd defnyddio un o’r 1.5 diwrnod o wyliau ychwanegol a ddarperir gan
y Cyngor yn bresennol i’r perwyl hwn, byddai angen ymgynghoriad ffurfiol gyda’r
undebau llafur cydnabyddedig, gyda golwg ar sicrhau cytundeb torfol cyn gallu
gweithredu.
·
O ran ail ran y cynnig, roedd yn llawn gefnogi’r
alwad, gan ei bod yn warthus ac yn embaras bod yr hawl i greu gwyliau banc
wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban ac i Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i
Lywodraeth Cymru, ac roedd yn barod i sicrhau bod llythyr yn cael ei gyflwyno
yn ffurfiol i Lywodraeth San Steffan.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Ei bod yn sarhad arnom
ers canrifoedd nad oes gennym fel gwlad yr hawl i ddathlu gŵyl ein
nawddsant. Y ddadl o hyd yw’r gost, ond
mae gŵyl banc yn hwb anhygoel i economi cefn gwlad, a dylai dathlu Dydd
Gŵyl Dewi fod yn rhan o raglen adfer economaidd ôl-Covid y Cyngor.
·
Bod angen gwneud yn glir
y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl i’r holl genedl, ac nid i’r
gweithlu’n unig.
·
Y dylai’r Llywodraeth a
phob cyngor arall yng Nghymru frwydro am hyn.
· Bod hyn yn syniad ardderchog, ond gan fod staff y Cyngor yn mwynhau telerau gwaith llawer gwell na gweithwyr yn y sector breifat, dylai’r diwrnod ychwanegol o wyliau gael ei dynnu allan o’u ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12