11 ADOLYGIAD O FFINIAU ETHOLIADOL GWYNEDD PDF 261 KB
Adroddiad
i ddilyn.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar benderfyniad Rebecca Evans AS, Y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â Sir Gwynedd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Nodwyd,
er i’r Cyngor wneud popeth y gallai i sicrhau bod dyheadau’r aelodau yn cael eu
trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, bod y Llywodraeth wedi anwybyddu’r sylwadau
hynny.
·
Nodwyd
nad oedd cyfeiriad penodol yn yr adroddiad at rai o wardiau Dwyfor sy’n cael eu
heffeithio gan y newidiadau yma, a mynegwyd pryder bod 3 allan o’r 6 sedd sy’n
cael ei cholli yn Nwyfor. Mewn ymateb,
nodwyd bod yr adroddiad gerbron y Cyngor yn gryno iawn, ac yn wybodaeth ddaeth
i law yn hwyr iawn yn y dydd, ond bod yr wybodaeth gyflawn ynghlwm iddo, ac ar
gael ar y fewnrwyd aelodau hefyd. Nodwyd
bod y swyddogion yn rhannu rhwystredigaeth yr aelodau bod y penderfyniad
swyddogol wedi dod mor hwyr yn y dydd, yn enwedig gan fod yr adolygiad wedi’i
gynnal ers bron i 3 blynedd, ond bod croeso i unrhyw un gysylltu gyda’r Prif
Weithredwr neu’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith i drafod unrhyw
ran ohono yn benodol.
·
Mynegwyd rhwystredigaeth fod Ward Bethel yn ymuno â
ward arall. Pwysleisiwyd bod wardiau
aml-aelod yn gam yn ôl i ddemocratiaeth ac atebolrwydd a chwestiynwyd y newid,
gan fod y drefn bresennol yn gweithio’n iawn, gyda’r etholwyr yn gwybod â phwy
i gysylltu. Nodwyd ymhellach y gobeithid
y byddai’r Cyngor yn gallu gwrthod yr adroddiad. Mewn ymateb, nodwyd y cydymdeimlid â’r
sylwadau ac y deellid y rhwystredigaeth ynglŷn â chynnwys y ddogfen, ond
bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r aelodau er gwybodaeth yn unig, ac y
dylid cyfeirio’r cwestiwn at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
·
Mynegwyd
siom aruthrol bod Bangor yn colli 3 sedd a 3 ward ar y Cyngor, a phwysleisiwyd
yr angen i gadw, neu hyd yn oed gynyddu, y nifer presennol o gynghorwyr er mwyn
cynnal democratiaeth y ddinas. Fel dinas
prifysgol, gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn cofrestru i bleidleisio, roedd
demograffi Bangor yn wahanol iawn i rai ardaloedd eraill o’r sir, ac roedd y
wardiau newydd a gynigid ar gyfer Bangor yn anferth o ystyried y boblogaeth
leol a’r boblogaeth myfyrwyr sy’n byw ynddynt.
·
Nodwyd, fel ardal dwristiaeth gyda nifer uchel o dai
haf, bod demograffi rhannau o Ben Llyn hefyd yn wahanol iawn i rannau eraill
o’r sir, gan mai ychydig iawn o berchnogion ail gartrefi oedd yn cofrestru i
bleidleisio.
·
Nodwyd y byddai’r pwysau gwaith ar y 69 aelod fydd
yn ceisio cyflawni gwaith y 75 aelod presennol yn aruthrol. Mewn ymateb, nodwyd y byddai yna ofyn, annheg
o bosib’, i bawb wneud mwy o waith, a bod hynny’n ofyn na ystyriwyd yn llawn
gan y Comisiwn Ffiniau na’r Gweinidog wrth ddod i’w penderfyniad.
· Awgrymwyd y gallai’r Llywodraeth fod wedi achub ar y cyfle hwn i gyflwyno Cynrychiolaeth Gyfrannol. Byddai wedyn yn gwneud synnwyr i gael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11