5 CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 269 KB
Cyflwynir:
· Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;
· Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru;
· Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1).
I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad), adroddiad
‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad
Archwilio Cymru), cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr yn electroneg.
Adroddwyd bod mân addasiadau i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis
Mehefin 2021 ac amlygwyd y canlynol:
·
Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar – gostyngiad o £2.9
miliwn yng ngwerth yr asedau, yn dilyn cywiriad i ffigyrau gwreiddiol y prisiwr
·
addasiad rhwng cyfrifon yn
ymwneud yn bennaf â phrisiad 35 o ysgolion o ganlyniad i broblemau mewnbynnu
categorïau technegol angen ei gywiro. Nid oedd yr addasiad wedi effeithio gwerth
yr asedau ond yn hytrach wedi golygu gostyngiad o £20.7 miliwn yn y ffigyrau
ailbrisio ac yr amhariad.
·
Ychwanegu mwy o fanylion am y
prif ymrwymiadau cyfalaf sydd yn cynnwys Ysgol y Faenol, Cymerau, Glancegin ac Uned Dementia Hafod Mawddach.
·
Nodyn 19 - Arian a Chyfwerthoedd arian - newid i driniaeth arian cydbwyllgor GwE, sydd bellach yn cael ei ddangos yng nghyfrifon Gwynedd
- hyn wedi arwain at leihau'r gorddrafft banc o £5.96 miliwn a chynyddu’r
credydwyr tymor byr yn Nodyn 21 o’r un swm. O ganlyniad, goblygiadau ar y prif
ddatganiadau sef y Fantolen, Datganiad symudiad mewn reserfau
a’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.
·
Ychwanegu ffigyrau i’r naratif
mewn nodiadau:
o Nodyn 28 – Gwasanaethau Asiantaeth – ychwanegu
manylion am 2 grant addysg (nid yw’n golygu unrhyw addasiadau i’r ffigyrau yn y
cyfrifon). £33.4 miliwn Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol a £20
miliwn Grant Datblygu Disgyblion.
o Nodyn 39 - Ymrwymiadau Dibynnol (‘Contingent Liabilities’) - dim
effaith ar ffigyrau’r datganiad ond yn
hytrach yn cynyddu'r ffigwr sydd wedi ei gynnwys yn y frawddeg o £450k.
Cadarnhawyd bod archwiliad cyfrifon Harbyrau
Gwynedd wedi ei gwblhau ac nad oedd angen eu hail gyflwyno i’r Pwyllgor.
Gwahoddwyd Derwyn Owen (Archwilio Cymru) i
gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Nodwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn
archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth
wedi ei arwyddo. Manylwyd ar:-
·
Effeithiau Covid-19 ar
archwiliad eleni
·
Barn Archwilio Arfaethedig
·
Materion arwyddocaol yn codi
o’r archwiliad, gan gynnwys camddatganiadau nas cywirwyd a materion arwyddocaol
eraill
·
Argymhellion
Diolchwyd i’r Cyfrifwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr.
Derbyniwyd yr angen i wirio gwaith priswyr i’r dyfodol.
Llongyfarchwyd yr Adran Cyllid ar y gwaith ac am gyflwyno’r wybodaeth
mewn modd dealladwy
PENDERFYNWYD
·
Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan
Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
·
Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21
(ôl-archwiliad)
·
Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i
ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg