4 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 366 KB
I ystyried yr adroddiadau
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Bod
y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o
Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau
perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau
dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.
2. Pwysleisio
pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran
ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau.
a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar
faterion yr harbwr ar gyfer
y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021.
Nododd yr Uwch
Swyddog Harbyrau mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn
lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio
graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor.
Tynnwyd sylw at y
materion canlynol:
Angorfeydd
Bod 54 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn
Harbwr Abermaw yn 2021
Materion Staffio
Canmolwyd yr holl
staff (harbwr a traeth) am eu gwasanaeth yn ystod cyfnod prysur a heriol iawn.
Adroddwyd eu bod wedi ymddwyn gydag agwedd rhagweithiol a braf oedd gweld
cydweithio da a goruchwyliaeth ddiogel dros yr Haf. Nid oedd cwynion wedi eu
derbyn. Ategwyd bod sefyllfa staff yr harbwr wedi cael ei ystyried yn fanwl ac
y bwriad oedd bod yr Harbwr Feistr Cynorthwyol a’r Cymhorthydd Harbwr yn cael
cynnig secondiad i aros ymlaen gyda bwriad o hysbysebu swydd wag yr Harbwrfeistr yn gynnar yn 2022.
Yn dilyn adolygiad
diweddar iawn y penderfyniad yw bydd yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn cael
dyrchafiad i swydd Harbwr Feistr ar Secondiad hyd at y 30 Fedi 2022 a bod
cyfnod cyflogaeth a swydd y Cymhorthydd Harbwr hefyd yn cael ei ymestyn hyd at
y 30 Fedi 2022 gyda dyrchafiad ar sail Secondiad.
Materion Ariannol
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyllid yr Harbwr amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai
crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol yn cael ei
rannu gyda’r aelodau yn yr wythnosau nesaf. Ategwyd bod gwariant oddeutu £6k
pellach i’w wario ar faterion cynnal a chadw, ond bod y lefel incwm eleni wedi
cyrraedd y targed. O ran ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr
Abermaw ynghyd a ffioedd lansio ar gyfer Cychod Pŵer a Cychod Dŵr
Personol ar gyfer tymor 2022/23, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r
ffioedd yn unol â chyfradd chwyddiant. Nodwyd hefyd yr angen i ystyried costau
ynni. Nid oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cadarnhad o’r cyfraddau y dylid eu
gweithredu - awgrymwyd y byddai’r wybodaeth ar gael cyn y Nadolig. Swyddog Morwrol i gylchredeg crynodeb bras o
gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol gyda’r aelodau
Astudiaeth Dichonolrwydd Carthu
Adroddwyd y bydd angen carthu cyfaint o 70,000m3 os dymunir cael y dyfnder priodol oddi fewn ardal fychan gyferbyn a cei yr harbwr. Atgoffwyd yr Aelodau bod bid ariannol gyda chefnogaeth Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG) wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd gyda £10k ychwanegol i’r £35k ar gyfer cynllun samplo natur y llaid. Adroddwyd y bydd dadansoddiad a chanlyniadau’r cynllun yn pennu’r opsiynau posib gydag adroddiad drafft i’w ryddhau ddiwedd mis Tachwedd. Diolchwyd i Peter Appleton a gwaith FLAG am eu cefnogaeth. Swyddog Morwrol i gylchredeg yr adroddiad drafft i’r Aelodau. Aelodau i ystyried yr adroddiad drafft a chyflwyno adborth /sylwadau / cwestiynau i’r Swyddog Morwrol gynnig i’r arbenigwyr, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4