5 CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL PDF 470 KB
Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth
Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd her o allu staff rheng flaen i ymateb i’r
arolwg staff hunanasesiad iaith Gymraeg oherwydd nad oes ganddynt fynediad
rhwydd i gyfrifiaduron personol. Ategwyd fod yr adran yn gweithio a’r Swyddog
Dysgu a Datblygu i geisio dod o hyd i ffyrdd addas i wella’r ymateb.
Tynnwyd sylw yn ogystal i’r prif bwyntiau canlynol:
-
Nodwyd
fod yr holl brentisiaethau yn yr adran yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg
a bod hysbysiadau Cymraeg ar gyfer y cyfleodd hyn bellach i’w gweld ar y
teledu.
-
Mynegwyd
awydd i ddatblygu mwy o derminoleg Cymraeg o fewn yr adran ac i sicrhau defnydd
ohonynt yn y gweithlu yn ogystal â chynnal hyfforddiant iaith i’r staff.
-
Gobeithir
annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ymysg y staff, yn enwedig yn yr ardaloedd ble
mae llai o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio megis Meirionnydd. Pwysleisiwyd fod
hyn yn flaenoriaeth fel gall staff rheng-flaen roi'r argraff gorau o ddefnydd
yr iaith i drigolion Gwynedd.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor i holi
cwestiynau-
-
Holwyd pa mor gynrychiadol oedd y cyfranogwyr a
ymatebodd i'r holiadur dynodiadau iaith. Nododd fod trefniadau i edrych ar yr
holiadur i sicrhau ei fod yn syml, a drwy hyn gobeithir y bydd cyfranogiad
ehangach. Holwyd hefyd pa mor debygol
oedd o fod unigolion Cymraeg wedi ei lenwi’n Saesneg. Eglurodd nad oedd modd o
wirio hyn.
-
Gofynnwyd pa mor aml mae pethau’n cael eu
cyfieithu’n allanol. Mynegwyd nad oedd angen defnyddio cwmnïau allanol gan eu
bod yn defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu mewnol o fewn y Cyngor a nodwyd yr her
o gael mwy o ddefnydd o derminoleg Cymraeg gan staff.
-
Holwyd beth oedd y drefn arferol pe bai rhaid
cyflogi rhywun di-gymraeg. Cadarnhawyd y byddai hyfforddiant addas yn cael ei
gynnig. Eglurwyd hefyd fod cefnogaeth a hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r
staff presennol sydd ddim yn hyderus efo’u Cymraeg.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.