Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith (eitem 5)

5 CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL pdf eicon PDF 470 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd her o allu staff rheng flaen i ymateb i’r arolwg staff hunanasesiad iaith Gymraeg oherwydd nad oes ganddynt fynediad rhwydd i gyfrifiaduron personol. Ategwyd fod yr adran yn gweithio a’r Swyddog Dysgu a Datblygu i geisio dod o hyd i ffyrdd addas i wella’r ymateb.

 

Tynnwyd sylw yn ogystal i’r prif bwyntiau canlynol:

-          Nodwyd fod yr holl brentisiaethau yn yr adran yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg a bod hysbysiadau Cymraeg ar gyfer y cyfleodd hyn bellach i’w gweld ar y teledu.

-          Mynegwyd awydd i ddatblygu mwy o derminoleg Cymraeg o fewn yr adran ac i sicrhau defnydd ohonynt yn y gweithlu yn ogystal â chynnal hyfforddiant iaith i’r staff. 

-          Gobeithir annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ymysg y staff, yn enwedig yn yr ardaloedd ble mae llai o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio megis Meirionnydd. Pwysleisiwyd fod hyn yn flaenoriaeth fel gall staff rheng-flaen roi'r argraff gorau o ddefnydd yr iaith i drigolion Gwynedd. 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor i holi cwestiynau-

-          Holwyd pa mor gynrychiadol oedd y cyfranogwyr a ymatebodd i'r holiadur dynodiadau iaith. Nododd fod trefniadau i edrych ar yr holiadur i sicrhau ei fod yn syml, a drwy hyn gobeithir y bydd cyfranogiad ehangach.  Holwyd hefyd pa mor debygol oedd o fod unigolion Cymraeg wedi ei lenwi’n Saesneg. Eglurodd nad oedd modd o wirio hyn.

-          Gofynnwyd pa mor aml mae pethau’n cael eu cyfieithu’n allanol. Mynegwyd nad oedd angen defnyddio cwmnïau allanol gan eu bod yn defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu mewnol o fewn y Cyngor a nodwyd yr her o gael mwy o ddefnydd o derminoleg Cymraeg gan staff.

-          Holwyd beth oedd y drefn arferol pe bai rhaid cyflogi rhywun di-gymraeg. Cadarnhawyd y byddai hyfforddiant addas yn cael ei gynnig. Eglurwyd hefyd fod cefnogaeth a hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r staff presennol sydd ddim yn hyderus efo’u Cymraeg.

 PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.