9 PROSIECT GWARCHOD ENWAU LLEOEDD CYNHENID PDF 359 KB
Cyflwyno adroddiad
gan y Swyddog Prosiect yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am waith y prosiect
newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog
Prosiect a’r Ymgynghorydd Iaith.
Nodwyd yn ôl yn 2018, fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Iaith,
oedd yn amlinellu cyfrifoldebau a phwerau’r Cyngor yn y maes enwi lleoedd.
Eglurwyd fod yr adroddiad yn ffrwyth gwaith ymchwil ac wedi ei greu mewn ymateb
i bryderon gan aelodau’r Pwyllgor ar y pryd am Seisnigeiddio enwau neu fathu
enwau newydd ar nodweddion daearyddol a thai. Eglurwyd o ganlyniad i rwystrau
megis Covid nad oedd modd symud y prosiect yn ei
flaen nes mis Medi eleni ble penodwyd Swyddog Prosiect i ddechrau ar y gwaith.
Bellach, nodwyd fod y cynllun hwn yn un o flaenoriaethau gwella'r Cyngor, ac o
ganlyniad wedi derbyn arian ychwanegol i wthio’r cynllun yn ei blaen.
Mynegwyd nad oedd eglurdeb ar y drefn o newid enwau ac ail enwi tai a
strydoedd. Pwysleisiwyd fod hyn yn bennaf oherwydd yr angen i foderneiddio
deddfau a pholisïau i sicrhau fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar enwau tai a
busnesau.
Eglurwyd fod cyfle
gyda’r cynllun hwn i adrannau o fewn y Cyngor gydweithio gyda’i gilydd a bod
cyfarfod cychwynnol i sefydlu Grŵp Prosiect wedi ei gynnal. Nodwyd y bydd
modd bwrw ymlaen gweithdrefnau pendant ac sydd yn ateb yr angen am eglurdeb yn
y maes. Nodwyd y bydd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion a’r cyhoedd i
ennyn diddordeb hirdymor i’r cynllun.
Adnabuwyd fod lle i
gydweithio efo Cynghorau Cymuned a Chynghorau Tref i weld camau maent wedi ei
wneud yn flaenorol neu beth sydd angen ei wneud yn y cymunedau.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach-
-
Holwyd
pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â chyfathrebu efo busnesau a chymdeithasau tai.
Nodwyd eu bod yn y broses o ddatblygu ffurflen wybodaeth i fusnesau a
chymdeithasau tai fydd yn rhoi gwybodaeth glir o’r broses o enwi tai a
busnesau. Mynegwyd nad oedd gan y Cyngor lawer o ddylanwad yn y maes y trydydd
sector ond nodwyd awydd i ddatblygu perthynas o fewn y maes a drwy hyn y gallu
i ddylanwadu ymhellach.
-
Tynnwyd
sylw at lwyddiant mae Cyngor Plwyf Llanystumdwy wedi cael i roi arwyddion enwau
ar bontydd a ger afonydd o fewn eu hardal, a gofynnwyd a oes modd datblygu’r
cynllun gyda’r adran Amgylchedd. Cytunwyd fod angen trafodaeth gyda’r adran a
bod angen parhau gyda chynlluniau o’r math hwn.
-
Gofynnwyd
pa rôl sydd gan Gynghorwyr i gefnogi’r cynllun hwn, nodwyd y bydd cyfarfodydd
cyson yn cael ei gynnal gyda’r Cynghorwyr ac y bydd diweddariadau yn cael ei
rannu. Nodwyd y bydd hyn yn gyfle i Gynghorwyr i herio perfformiad y cynllun
ynghyd a rhannu eu syniadau hwythau.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.