Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith (eitem 9)

9 PROSIECT GWARCHOD ENWAU LLEOEDD CYNHENID pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Prosiect yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am waith y prosiect newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Prosiect  a’r Ymgynghorydd Iaith.

 

Nodwyd yn ôl yn 2018, fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Iaith, oedd yn amlinellu cyfrifoldebau a phwerau’r Cyngor yn y maes enwi lleoedd. Eglurwyd fod yr adroddiad yn ffrwyth gwaith ymchwil ac wedi ei greu mewn ymateb i bryderon gan aelodau’r Pwyllgor ar y pryd am Seisnigeiddio enwau neu fathu enwau newydd ar nodweddion daearyddol a thai. Eglurwyd o ganlyniad i rwystrau megis Covid nad oedd modd symud y prosiect yn ei flaen nes mis Medi eleni ble penodwyd Swyddog Prosiect i ddechrau ar y gwaith. Bellach, nodwyd fod y cynllun hwn yn un o flaenoriaethau gwella'r Cyngor, ac o ganlyniad wedi derbyn arian ychwanegol i wthio’r cynllun yn ei blaen.

 

Mynegwyd nad oedd eglurdeb ar y drefn o newid enwau ac ail enwi tai a strydoedd. Pwysleisiwyd fod hyn yn bennaf oherwydd yr angen i foderneiddio deddfau a pholisïau i sicrhau fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar enwau tai a busnesau.

Eglurwyd fod cyfle gyda’r cynllun hwn i adrannau o fewn y Cyngor gydweithio gyda’i gilydd a bod cyfarfod cychwynnol i sefydlu Grŵp Prosiect wedi ei gynnal. Nodwyd y bydd modd bwrw ymlaen gweithdrefnau pendant ac sydd yn ateb yr angen am eglurdeb yn y maes. Nodwyd y bydd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion a’r cyhoedd i ennyn diddordeb hirdymor i’r cynllun.

 

Adnabuwyd fod lle i gydweithio efo Cynghorau Cymuned a Chynghorau Tref i weld camau maent wedi ei wneud yn flaenorol neu beth sydd angen ei wneud yn y cymunedau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach-

-          Holwyd pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â chyfathrebu efo busnesau a chymdeithasau tai. Nodwyd eu bod yn y broses o ddatblygu ffurflen wybodaeth i fusnesau a chymdeithasau tai fydd yn rhoi gwybodaeth glir o’r broses o enwi tai a busnesau. Mynegwyd nad oedd gan y Cyngor lawer o ddylanwad yn y maes y trydydd sector ond nodwyd awydd i ddatblygu perthynas o fewn y maes a drwy hyn y gallu i ddylanwadu ymhellach.

-          Tynnwyd sylw at lwyddiant mae Cyngor Plwyf Llanystumdwy wedi cael i roi arwyddion enwau ar bontydd a ger afonydd o fewn eu hardal, a gofynnwyd a oes modd datblygu’r cynllun gyda’r adran Amgylchedd. Cytunwyd fod angen trafodaeth gyda’r adran a bod angen parhau gyda chynlluniau o’r math hwn.

-          Gofynnwyd pa rôl sydd gan Gynghorwyr i gefnogi’r cynllun hwn, nodwyd y bydd cyfarfodydd cyson yn cael ei gynnal gyda’r Cynghorwyr ac y bydd diweddariadau yn cael ei rannu. Nodwyd y bydd hyn yn gyfle i Gynghorwyr i herio perfformiad y cynllun ynghyd a rhannu eu syniadau hwythau.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.