Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 7)

7 DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 138 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 ac erbyn Mawrth 31ain 2021 bod 81% o gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC. Nodwyd bod y perfformiad yn un ‘safonol iawn' gyda nifer o ddatblygiadau ar y gweill sydd yn cynnwys trosglwyddo cyfran Marchnadoedd Datblygol o Fidelity i’r gronfa PPC. Bydd hyn yn dod a chyfanswm pwlio Gwynedd i 83%.

Nodwyd bod y Gronfa yn perfformio’n sylweddol uwch na’r meincnod yn gyson; bod cyfarfodydd Panel Buddsoddi yn gyfle da i holi a herio Rheolwyr; ac er bod sefyllfa covid wedi bod yn argyfyngus ar draws y byd bod marchnadoedd yn perfformio’n gryf.

Camau nesaf yn y broses fydd edrych ar yr opsiynau o gyfuno asedau i’r categori Marchnadoedd Preifat sydd yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Hymans Robertson gyda thrafodaethau parhaus i benderfynu'r strwythur a’r mecanwaith priodol i fuddsoddi ynddo. Adroddwyd bod cynghorydd apwyntio arbenigol wedi ei apwyntio i gynorthwyo’r PPC i apwyntio rheolwyr buddsoddi addas i reoli’r dyraniad marchnadoedd preifat a bod tendr bellach wedi ei ryddhau i benodi rheolwr addas ar gyfer isadeladwaith a dyled preifat.

Yng nghyd-destun cynrychiolydd aelodau ar y Cyd bwyllgor Llywodraethu, nodwyd bod pob awdurdod cyfansoddiadol ar hyn o bryd yn cyflwyno addasiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod sydd angen cymeradwyaeth pob Cyngor Llawn - cymeradwywyd yr addasiadau gan Cyngor Gwynedd ar y 7fed o Hydref 2021.

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r holl staff oedd yn gysylltiedig â'r gwaith

Nododd y Cadeirydd fod PPC yn gronfa lwyddiannus ac effeithiol gyda dychweliadau derbyniol iawn. Ategwyd bod sefyllfa cronfa Cymru, o gymharu ag eraill ar draws y DU yn un cryf iawn a bod cydweithio da yn rhan amlwg o’r llwyddiant.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn nodi perfformiad ‘safonol iawn’ yn y fersiwn Gymraeg, ond yn nodi very satisfactory yn y Saesneg sydd yn ymddangos yn well disgrifiad o’r sefyllfa / perfformiad – angen ail ystyried yr ymadrodd Cymraeg.

·         Bod y trosglwyddiadau hyd yma wedi bod yn galonogol iawn – y trosglwyddiadau sydd yn weddill fydd yn gosod yr heriau mwyaf

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi’r wybodaeth