RHEOLI NEWID - PORTH CAERGYBI
Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau (adroddiad
wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y
cais i newid ar gyfer Porth Caergybi ac
yn hysbysu Llywodraeth Cymru a’r DU fel newid i sgôp prosiect Cynllun Twf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd
y cais i newid ar gyfer Porth Caergybi ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru a’r DU
fod newid i sgôp prosiect Cynllun Twf.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Ym mis Rhagfyr 2020, fe gytunwyd ar y
Cytundeb Twf ar gyfer Cynllun Twf y Gogledd. Nodwyd fod gan Gynllun Twf Gogledd
Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y
Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n
berthnasol ei hystyried gan y Bwrdd.
Mynegwyd fod cais i newid yn ymwneud â
phrosiect Porth Caergybi sydd yn un o chwe prosiect o fewn y rhaglen Tir ac
Eiddo.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr adroddiad.