CAIS AM INDEMNIAD GAN GYNGHORYDD O DAN BOLISI'R CYNGOR
Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (copi
ar wahân i ddilyn ar gyfer aelodau’r pwyllgor yn unig).
Penderfyniad:
Wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan ystyried Polisi
Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd
i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w hysbysu nad yw’r
Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn perthynas â
chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos
mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor
Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y rôl honno’n unig, ac ni
fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o Gyngor Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn gwahodd y pwyllgor i
benderfynu ar gais am indemniad gan gynghorydd dan delerau indemniad y Cyngor i
Aelodau a Swyddogion.
PENDERFYNWYD wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan
ystyried Polisi Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad
a gyflwynwyd i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w
hysbysu nad yw’r Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn
perthynas â chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn
ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y
rôl honno’n unig, ac ni fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel
aelod o Gyngor Gwynedd.