Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/11/2021 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi (eitem 4)

4 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 286 KB

I ystyried yr adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)  Penderfynwyd nodi a derbyn yr adroddiad.

 

(2)   Ymateb i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft” bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol.

 

Cofnod:

 

Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau. Nododd y prif bwyntiau fel a ganlyn:

 

-    Bod 76 o gychod ar angorfeydd o gymharu â 47 yn 2020. Ategodd yn gyffredinol, bod harbyrau Gwynedd wedi gweld cynnydd yn nifer y cychod ar angorfeydd.

-    Tybiwyd bod y cynnydd o ganlyniad i ryddhad rheoliadau Covid-19 yn ogystal â’r parhad o’r rhwystrau i deithio dramor.

-    Rhannwyd bod y drefn cofrestru ar-lein ar gyfer cychod pŵer a jetskis wedi bod yn llwyddiant

-    Crynhowyd y cyfanswm cofrestriadau 1,308 a chyfanswm ar gyfer cofrestriadau Cychod Dwr Personol (jestskis) 1,302.

-    Nododd bod y Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r cod diogelwch morwrol, ac ategodd i aelodau eu hysbysu ynghylch unrhyw sylwadau.

 

Cyflwynwyd diweddariad ar faterion staffio fel a ganlyn:

 

-    Nododd nad yw’r lefel staffio wedi newid ers yr adroddiad diwethaf ac ategodd bod y gwasanaeth yn medru galw staff o Borthmadog neu Abermaw os oes angen yn codi.

-    Penodwyd 2 warden traeth i gynorthwyo gyda goruchwylio rheolaeth ar brif draeth Aberdyfi ac ategwyd yn ôl adborth gan drigolion bod hyn wedi bod yn llwyddiant.

-    Mewn perthynas â materion Pwyllgor, mynegwyd balchder yn y gefnogaeth sydd i’r Pwyllgor hwn, a rhannwyd bod sedd wag ar hyn o bryd. Dywedodd bod cais wedi dod gan y mudiad bad achub i lenwi’r sedd, a gofynnwyd am gefnogaeth yr aelodau i sicrhau bod y sedd yn cael ei lenwi erbyn y cyfarfod nesaf yn y Gwanwyn.

 

 

 

Cyflwynwyd materion ariannol gan Reolwr Morwrol, aethpwyd ati i egluro’r sefyllfa ariannol yr Harbwr gan nodi’r gyllideb, gwariant a gwir wariant ac egluro unrhyw gôr neu danwariant i’r aelodau.

 

Aethpwyd ati i drafod y ddogfen ar ymgynghoriad cryfhau gorfodaeth ar ddefnydd peryglus cychod pleser a badau dwr personol. Eglurodd bod dyddiad cau'r ymgynghoriad wedi bod, fodd bynnag mae llythyr wedi ei hysgrifennu i’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain yn nodi dyddiad y pwyllgor hwn ac yn egluro y bydd sylwadau Cyngor Gwynedd yn cael eu rhannu yn dilyn y Pwyllgor.

 

Adroddwyd bod 4 opsiwn ynghlwm a’r ymgynghoriad gyda’r un ffafriol i ddiwygio’r ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol. Eglurodd bod y Pwyllgorau harbyrau eraill, eisoes wedi penderfynu cefnogi’r opsiwn yma. Ategodd nad oed rhaid dilyn y dewis hwn a gofynnwyd am farn yr Aelodau.

 

 

Yn ystod y drafodaeth cafwyd y sylwadau isod gan aelodau:

 

-    Mynegwyd balchder o weld bod niferoedd y cychod yn uwch gan i fod yn dda iawn i’r gwasanaeth o ran cyllid ychwanegol.

-    Gofynnwyd am gywirdeb gyda niferoedd gan fod y copi Saesneg yn wahanol i’r un Gymraeg o ran nifer cofrestriadau.

-    Rhoddwyd sylw am gwt y wardeniaid traeth a gofynnwyd a yw’n bosib gosod rhywbeth mwy gweddus i’r ardal.

-    Nodwyd bod y staff wedi wynebu tymor prysur iawn a diolchwyd i’r holl staff a oedd ar gael o gwmpas yr harbwr.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4