MATERION BRYS
Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Penderfyniad:
Cofnod:
Adroddwyd fod John Gosling,
Partneriaeth Twristiaeth Abersoch a Llŷn bellach wedi sefyll lawr a
diolchwyd iddo am ei wasanaeth ar y Cydbwyllgor hwn.
Nodwyd pwysigrwydd i’r Cydbwyllgor gyflwyno
sylwadau yn yr ymgynghoriad ar ddatblygiad Clwyd Alun ym Mhenrhos.
Roedd rhai aelodau yn boenus ynghylch graddfa’r datblygiad a’r holl dai fydd yn
gynwysedig o hynny. Gobeithir y bydd darpariaeth ddigonol i gwrdd â’r anghenion
nyrsio a’r prinder cartrefi henoed yn y Sir. Bydd y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn rhannu linc i’r
ymgynghoriad efo’r Cydbwyllgor fel bod modd i aelodau gyflwyno sylwadau.
Penderfynwyd yn ogystal i’r
Swyddog AHNE Llŷn grynhoi sylwadau’r Cydbwyllgor a’u cyflwyno yn yr
ymgynghoriad.
Trafodwyd y bwriad i osod Paneli Solar ar
dir Coed y Wern. Nodwyd nad oes llawer o fanylion pellach ar hyn o bryd; nid
oes cais cynllunio wedi ei ddarparu eto ond yn hytrach cais cyn-gynllunio. Mae’n debyg y bydd cais cynllunio yn cael ei
gyflwyno maes o law. Ychwanegwyd fod y safle hwn ddim yn yr AHNE ond yn
hytrach yn weladwy o’r AHNE. Adroddwyd fod y Cydbwyllgor wedi gofyn i gael rhoi
mewnbwn ar faterion o’r fath.
Penderfynwyd cynnal Cyfarfod
Arbennig i drafod datblygiad posib Paneli Solar ar dir Coed y Wern pan yn berthnasol (cynamserol ar hyn o
bryd).
Nodwyd y bydd Cynhadledd Twristiaeth yn cael
ei gynnal ar 30 Tachwedd, 2021 o’r enw ‘Cynhadledd Twristiaeth, Digwyddiad Economi Ymweld Cynaliadwy
Gwynedd ac Eryri 2035’. Gofynnwyd i’r Swyddog Gwasanaeth AHNE ddarparu manylion
i aelodau’r Cydbwyllgor sy’n dymuno cymryd rhan.
Penderfynwyd fod gwahoddiad yn cael ei anfon i aelodau’r Cydbwyllgor i fynychu’r Gynhadledd.