BWS ARFORDIR LLŶN
Cyflwyniad
llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd.
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd yn yr adroddiad Gwerthusiad
Bws Fflecsi Llŷn a’r cyflwyniad llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd a Wil
Parry, O Ddrws i Ddrws.
Cofnod:
Croesawyd yr Ymgynghorydd Cynan Jones a Wil
Parry, O Ddrws i Ddrws i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y swyddog O
Ddrws i Ddrws ble nododd mai amcan y prosiect Bws Fflecsi
Llŷn oedd cynnig gwasanaeth oedd yn fwy hyblyg i deithwyr oedd eisiau
defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Llŷn.
Ymhelaethodd fod y prosiect Bws Fflecsi Llŷn wedi dod i fodolaeth yn Haf 2021 yn dilyn
cynnig gan Drafnidiaeth i Gymru yn Ebrill 2021 i redeg Peilot Fflecsi yn Llŷn. Gwasanaeth bws ar alw, cornel i
gornel oedd hwn; fe yrrwyd ymlaen efo’r Peilot gan fod cynlluniau eisoes yn
bodoli i wneud bws arfordir Llŷn yn wasanaeth ar alw. Byddai’r cynllun hwn
yn gwasanaethu ardaloedd ychwanegol i’r rhai oedd ar lwybr bws arfordir
Llŷn. Y bwriad oedd creu gwasanaeth atodol i’r gwasanaethau cyhoeddus ac
annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddefnyddio llai ar eu ceri. Gellir
archebu’r bws dros y ffôn neu drwy’r Ap.
Adroddwyd fod y sefyllfa Cofid19 wedi creu
ansicrwydd yn enwedig yng ngwanwyn 2021 pan roedd hi’n anodd cynllunio ymlaen
llaw. Cydnabyddwyd fod pethau wedi mynd o’i le; roedd
oedi ynghylch yr Ap a materion hawlfraint ynglŷn â diweddaru taflen gan y
dylunydd. Ymddiheurwyd na chafodd yr AHNE na Chyfoeth Naturiol Cymru'r sylw a’r
cyhoeddusrwydd haeddiannol. Bydd
y gwasanaeth yn parhau yn 2022, gobeithiwyd y bydd yr amgylchiadau yn fwy
sefydlog bryd hynny.
Tywysodd yr Ymgynghorydd y Cydbwyllgor drwy
ei werthusiad o’r gwasanaeth gan nodi fod yr Ap wedi gweithio yn eithriadol o
dda, e.e. gwybodaeth gyfredol am leoliad y bws yn cael ei ddarparu’n amserol.
Roedd y bws hefyd yn cyrraedd pen ei daith yn amserol os nad cynnar. Nodwyd fod
y gwasanaeth bws Fflecsi Llyn wedi sgorio 4.9 allan o
5 ar yr Ap gan ddefnyddwyr y gwasanaeth oedd yn galonogol iawn. Ychwanegodd yr
Ymgynghorydd ei fod wedi derbyn rhagor o ystadegau heddiw, bydd yn ychwanegu’r
rhain i’w adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:-
-
Gofynnwyd o fewn
pa gyfnod gafodd y ffigwr o 1590 o geisiadau eu derbyn.
-
Mynegwyd
diddordeb i gymharu nifer teithwyr o wasanaeth bws 2019 i’r niferoedd yma ac os
oedd modd gwneud hyn.
-
Gofynnwyd faint o rybudd oedd ei angen i archebu’r bws.
Pryderwyd ein bod yn ymadael â gwasanaeth sefydlog a dibynadwy efo gwasanaeth
fyddai’n anodd ei ddefnyddio ar y diwrnod.
-
Holiwyd faint o
dwristiaid a faint o bobl leol oedd yn defnyddio’r gwasanaeth.
-
Cwestiynwyd os
oedd y gwasanaeth hwn wir yn lleihau ôl-troed carbon.
-
Pryderwyd y byddai’r gwasanaeth hwn yn gwanhau’r
gwasanaeth bws cyhoeddus a chwestiynwyd beth fyddai’n digwydd i’r gwasanaeth
craidd yno petai llai a llai yn ei ddefnyddio a grantiau fel y fenter hon yn
rhedeg allan.
-
Awgrymwyd i edrych ymhellach na cherddwyr ac i gysidro
darparu gwasanaeth tebyg gyda’r nos.
Mewn ymateb, nodwyd:
- Bod 1590 o geisiadau wedi eu derbyn rhwng 19 Gorffennaf 2021 i 1 Tachwedd 2021, o’r rhain fe gafodd 1469 o deithiau eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5