6 SŴN AWYRENNAU DROS AHNE LLŶN PDF 139 KB
Morus
Dafydd, Swyddog Prosiect
AHNE i roi adroddiad ar Sŵn
Awyrennau dros AHNE Llŷn.
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a cydnabyddwyd bod y sŵn
gan awyrennau o RAF Y Fali yn hedfan dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Llŷn wedi lleihau yn ddiweddar.
Cofnod:
Cafwyd diweddariad ar y mater brys hwn a godwyd yng
nghyfarfod mis Mai. Rhedwyd drwy’r adroddiad gan nodi fod llythyr wedi cael ei
yrru gan y Cydbwyllgor er mwyn datgan pryder am y sŵn awyrennau o RAF Fali
oedd yn hedfan dros AHNE Llŷn. Nodwyd yr ymateb a dderbyniwyd gan
Arweinydd Sgwadron yn y Fali a oedd yn adrodd eu bod yn ceisio’u gorau i
hyfforddi dros y môr pan yn bosib. Yn ychwanegol, dywedodd Jeremy Quinn, fel
ymateb i gwestiwn Hywel Williams AS, fod yr RAF am gynyddu lefelau ymgysylltu â’r cymunedau a chyhoeddi
gwybodaeth fwy rhagweithiol ar eu gwefan.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion â
ganlyn gan aelodau:-
-
Nodwyd fod lefel y sŵn wedi lleihau
dros y misoedd diwethaf ac o ganlyniad fod nifer y cwynion gan bobl leol wedi
lleihau.
-
Roedd rhai Aelodau wedi ymweld â RAF
Fali ble nodwyd fod yr offer bellach ganddynt i’w galluogi i hedfan y Texan T1
dros y môr.
Mewn ymateb nodwyd:
-
Y parheir i gadw golwg ar y
sefyllfa.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.