7 PARTNERIAETH GWYRDDNI PDF 129 KB
Adroddiad
gan Swyddog Prosiect GwyrddNi, Elis Smits.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad gan Swyddog Prosiect GwyrddNi, Elis Smits. Pe
bydd mwy o wybodaeth yn cael ei dderbyn bydd y Swyddog AHNE Llŷn yn ei
rannu efo’r Cydbwyllgor.
Cofnod:
Darparwyd gwybodaeth am GwyrddNI,
mudiad Newid Hinsawdd newydd sydd wedi ei sefydlu yng Ngwynedd. Rhedwyd drwy
ddatganiad Swyddog Prosiect GwryddNi, Elis Smits gan nodi efallai y gall fynychu cyfarfod o’r
Cydbwyllgor hwn yn y dyfodol i roi diweddariad pellach i’r grŵp. Eglurwyd mai
bwriad y mudiad yw annog trafodaethau o amgylch newid hinsawdd a dod a phobl
ynghyd i ddysgu a gweithredu yn lleol. Nodwyd fod mwy o wybodaeth ar gael ar y
we os fydd aelodau’r Cydbwyllgor yn dymuno cael golwg neu os fydd y Swyddog
Gwasanaethau AHNE yn derbyn rhagor o wybodaeth yna gallai ei rannu efo’r
Cydbwyllgor.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:-
-
Nodwyd er gwybodaeth gan aelod Cyngor Cymuned Llanbedrog ei fod eisoes wedi cael sgwrs
dros y ffôn efo Elis Smits yn dilyn darllen ei
ddatganiad. Adroddwyd y bydd Mr Smits yn mynychu
cyfarfod Prynhawn Difyr fory ym Mhwllheli er mwyn
cyflwyno ei hun a rhoi cyflwyniad i’r grŵp.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd derbyn y
wybodaeth yn yr adroddiad gan Swyddog Prosiect GwyrddNi,
Elis Smits.