9 PROSIECTAU CYFALAF PDF 121 KB
Bleddyn
Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar
Brosiectau Cyfalaf.
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad ar Brosiectau Cyfalaf AHNE
Llŷn.
Cofnod:
Darparwyd gwybodaeth am brosiectau cyfalaf
AHNE Llŷn gan roi diweddariad ar brosiectau eleni sef:
·
Atgyweirio Trac
Porth Meudwy – Nodwyd fod cyfraniad ariannol wedi ei wneud yn dilyn y
tirlithriad a amharodd ar y ffordd. Rhannwyd fod y gwaith bellach wedi ei
gwblhau a’r trac wedi ei drwsio.
·
Gwelliannau yn
ardal y Cei, Trefor – Adroddwyd fod bras-gynlluniau tendrau wedi cael eu
cwblhau a gobeithir dechrau ar y gwaith yn fuan yn y flwyddyn newydd.
·
Gwelliannau i
gyfres o hawliau tramwy yn yr AHNE – Nodwyd fod 6 llwybr i gyd a bod y rhan
fwyaf o’r gwaith wedi cael ei osod. Ychwanegodd y Swyddog Gwasanaeth AHNE ei
fod yn hyderus y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen.
·
Adnewyddu toiledau Lôn Gam, Nefyn – Eglurwyd fod y gwaith
cefndirol wedi ei wneud ynglŷn â chostau cyn y tirlithriad diweddar, sydd
wedi dal pethau yn ôl. Adroddwyd bellach fod cadarnhad y gall y gwaith symud yn
ei flaen; mae’r dogfennau tendro yn cael eu paratoi ar hyn o bryd.
Ychwanegwyd fod sgyrsiau wedi digwydd efo
Llywodraeth Cymru. Rhaid aros nes bydd y gyllideb wedi ei osod gan y Senedd cyn
derbyn cadarnhad fod arian ar gael at y flwyddyn ariannol 2022/23. Ar ôl derbyn
y cadarnhad hwn bydd y Cydbwyllgor yn gwybod faint o arian fydd ar gael, bydd
cyfle wedyn i ymgynghori. Nodwyd bydd y themâu ar gyfer y prosiectau yn parhau
fel y flwyddyn bresennol.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:-
-
Holwyd faint o arian gafodd ei roi i’r prosiect Porth Meudwy.
Mewn ymateb nododd y Swyddog Gwasanaeth AHNE
fod cyfraniad o £30k wedi cael ei wneud at y gwaith yma. Ychwanegwyd fod y
gwaith yn cael ei reoli gan Ymgynghoriaeth Gwynedd.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.