Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C21/0573/33/LL Nant, Boduan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YE pdf eicon PDF 327 KB

Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio fel bod modd trafod ac asesu’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd

 

Cofnod:

Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd ynghyd a chais i ohirio’r penderfyniad fel bod modd trafod materion mynedfa ac ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r system garthffosiaeth

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r cais

 

PENDERFYNWYD gohirio fel bod modd trafod ac asesu’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd