8 RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADRODDIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 PDF 216 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
(sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf.
Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef:
·
lleihad o £15,000 mewn defnydd o fenthyca,
·
cynnydd o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau,
·
cynnydd o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf,
·
cynnydd o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw,
·
lleihad o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf, a
·
cynnydd o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf.
Cymeradwywyd ariannu
addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
·
lleihad
o £15,000 mewn defnydd o fenthyca,
·
cynnydd
o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,
·
cynnydd
o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,
·
cynnydd
o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,
·
lleihad
o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a
·
cynnydd
o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r
rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol.
Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul adran o’r rhaglen gyfalaf
o £127.7 am gyfnod o dair blynedd.
Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn
lle i fuddsoddi oddeutu £52.1 miliwn eleni, gyda £27.4miliwn wedi’i ariannu
drwy grantiau penodol. Eglurwyd fod effaith y pandemig
yn parhau ar y rhaglen gyfalaf ac mai dim ond 37% o gyllideb eleni sydd wedi ei
wario hyd ddiwedd Tachwedd, o’i gymharu a 51% ddwy flynedd yn ôl. Nodwyd fod
£22.1miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2021/22 i 2022/23 a
2023/24 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £6.2miliwn Cynlluniau Strategaeth
Tai, £5.8miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a £5.4miliwn Cynlluniau Ysgolion
Ganrif 21.
Tynnwyd sylw at y rhestr grantiau ychwanegol a
lwyddodd y Cyngor ei ddenu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys
£2.3miliwn Grant Cynnal a Chadw Ysgolion, £1.4milwi i Atal Llifogydd a
£0.4miliwn Grant Cronfa Symbyliad Economaidd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd am yr adroddiad a
holwyd pam fod lleihad yng ngwariant y
rhaglen gyfalaf yn ystod 2023/34. Mynegwyd fod hyn o ganlyniad i ansicrwydd
maint y grantiau yn ystod y flwyddyn hon.
¾
Amlygwyd fod addysg a tai yn cael blaenoriaethu pan yn buddsoddi.
Awdur: Ffion Madog Evans