Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet (eitem 9)

9 TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 592 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.

 

Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

 

Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750 gan eu dileu o’r gyllideb, sef

·         Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750

·         Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000

¾    symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol

¾    nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.

 

Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

 

Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750 gan eu dileu o’r gyllideb, sef

·         Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750

·         Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000

¾    symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol

nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers 2015/16 fod gwerth £35miliwn o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer cyfnod 2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach, fod dros £32.8 miliwn o’r arbedion yma wedi eu gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

 

Mynegwyd ers Ebrill 2020 fod adrannau’r Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i’r pandemig ac o ganlyniad fod llithriad wedi bod yn gwireddu’r rhaglen arbedion. Wrth edrych ar gynlluniau arbedion am y cyfnod 2015/16 i 2020/21 amlygir fod 96% o’r arbedion wedi ei gwireddu. Ategwyd mai’r prif gynlluniau i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Amlygwyd fod 45% o arbedion 2021/22 wedi eu gwireddu ond eto mai’r adrannau gyda gwerth uchaf o gynlluniau eto i’w cyflawni yw’r Adran Briffyrdd ynghyd â’r Adran Oedolion. Pwysleisiwyd fod gwireddu gwerth £32.8miliwn o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol, ac amlygwyd risgiau i gyflawni gwerth £0.8miliwn o gynlluniau.

 

Eglurwyd yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddogion Cyllid o’r cynlluniau arbedion ar gyfer 2022/23 rhaid cydnabod fod y sefyllfa wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni dau gynllun arbedion gwerth £489,750. Tynnwyd sylw at y ddau gynllun  ‘Adolygiad Dechrau i’r Diwedd’ yn yr adran Blant a Teuluoedd a cynllun ‘Trosglwyddo Meysydd Chwarae i eraill’ gan yr adran Briffyrdd a gofynnwyd i’r Cabinet i ddileu’r ddau gynllun o’r gyllideb.

 

Gofynnwyd yn ogystal i ail broffilio cynlluniau arbedion o fewn yr Adran Economi a Chymuned ac yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant o 2022/23 i 2023/24 o ganlyniad i ardrawiad y pandemig ar yr adrannau yma. Yn dilyn dileu a llithro arbedion, nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau sy’n weddill yn 2022/23.

 

 

Awdur: Dewi Morgan