Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet (eitem 10)

10 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas   

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod perfformiad yr adran yn gyffredinol dda er gwaethaf yr heriau sydd yn eu wynebu. Amlygwyd o ran cynllun Trosglwyddiad Unedau Gwyliau o’r Dreth Gyngor i Drethi Busnes, ei bod yn ymddangos fod Llywodraeth Cymru yn dechrau deall maint y broblem. Ategwyd fod yr adran wedi cydlynu ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethiant lleol.

 

O ran cynllun Cyflawni Arbedion, mynegwyd fod yr adroddiad blaenorol wedi amlygu fod £34.8miliwn o arbedion wedi ei cyflawni sydd yn tanlinellu perfformiad da yr holl adrannau ar draws y Cyngor. O ran perfformiad yr adran ar y cyfan amlygwyd fod Datganiad o’r Cyfrifon yn dilyn yr archwiliad, ynghyd ag adroddiad yr archwiliwr allan wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu , ac unwaith eto cyhoeddwyd barn diamod ar y Datganiad o Gyfrifon. Llwyddwyd yn ogystal i gwblhau adroddiad blynyddol y Gronfa Bensiwn cyn y dyddiad statudol o 1af o Ragfyr.

 

Amlygwyd fod nifer o ceisiadau taliad cefnogi hunan ynysu yn parhau i gynyddu, gan nodi fod hyn yn faich ychwanegol ar y Gwasanaeth Budd-daliadau. Eglurwyd o ganlyniad i hyn fod cynnydd yn nifer y dyddiad a gymryd ar gyfartaledd i brosesu cais budd-dal newydd.  Nodwyd fod gwytnwch systemau mewnol technoleg gwybodaeth y Cyngor yn parhau’n iach, ac fod gwaith sylweddol wedi ei wneud i gryfhau gallu’r adran i amddiffyn ymosodiadau seibr. Er hyn, nodwyd pryder am systemau cenedlaethol sy’n cael eu gwesteia tu allan i’r Cyngor sydd ddim yn cyrraedd y safon disgwyliedig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Holwyd gyda’r adran yn gweinyddu grantiau’r Llywodraeth amlygwyd nad oes cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad, ar pwysau ychwanegol fydd ar yr adran. Eglurwyd y bydd y cynllun grantiau newydd ychydig yn wahanol gan fod angen tystiolaeth gan y busnesau i ddangos eu bod yn parhau i fod yn gwmni gweithredol sydd yn masnachu. Ategwyd fod unedau gwyliau wedi ei heithrio o’r cynllun grantiau yma gan nad oedd y cyfyngiadau yn eu heffeithio.

 

Awdur: Dewi Morgan