10 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 199 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod
perfformiad yr adran yn gyffredinol dda er gwaethaf yr heriau sydd yn eu
wynebu. Amlygwyd o ran cynllun Trosglwyddiad Unedau Gwyliau o’r Dreth Gyngor i
Drethi Busnes, ei bod yn ymddangos fod Llywodraeth Cymru yn dechrau deall maint
y broblem. Ategwyd fod yr adran wedi cydlynu ymateb y Cyngor i ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar drethiant lleol.
O ran cynllun Cyflawni Arbedion, mynegwyd fod yr
adroddiad blaenorol wedi amlygu fod £34.8miliwn o arbedion wedi ei cyflawni
sydd yn tanlinellu perfformiad da yr holl adrannau ar draws y Cyngor. O ran
perfformiad yr adran ar y cyfan amlygwyd fod Datganiad o’r Cyfrifon yn dilyn yr
archwiliad, ynghyd ag adroddiad yr archwiliwr allan wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu , ac unwaith eto cyhoeddwyd barn diamod ar y
Datganiad o Gyfrifon. Llwyddwyd yn ogystal i gwblhau adroddiad blynyddol y
Gronfa Bensiwn cyn y dyddiad statudol o 1af o Ragfyr.
Amlygwyd fod nifer o ceisiadau taliad cefnogi hunan
ynysu yn parhau i gynyddu, gan nodi fod hyn yn faich ychwanegol ar y Gwasanaeth
Budd-daliadau. Eglurwyd o ganlyniad i hyn fod cynnydd yn nifer y dyddiad a gymryd
ar gyfartaledd i brosesu cais budd-dal newydd.
Nodwyd fod gwytnwch systemau mewnol technoleg gwybodaeth y Cyngor yn
parhau’n iach, ac fod gwaith sylweddol wedi ei wneud i gryfhau gallu’r adran i
amddiffyn ymosodiadau seibr. Er hyn, nodwyd pryder am
systemau cenedlaethol sy’n cael eu gwesteia tu allan
i’r Cyngor sydd ddim yn cyrraedd y safon disgwyliedig.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Holwyd gyda’r adran yn
gweinyddu grantiau’r Llywodraeth amlygwyd nad oes cyfeiriad at hyn yn yr
adroddiad, ar pwysau ychwanegol fydd ar yr adran. Eglurwyd y bydd y cynllun
grantiau newydd ychydig yn wahanol gan fod angen tystiolaeth gan y busnesau i
ddangos eu bod yn parhau i fod yn gwmni gweithredol sydd yn masnachu. Ategwyd
fod unedau gwyliau wedi ei heithrio o’r cynllun grantiau yma gan nad oedd y
cyfyngiadau yn eu heffeithio.
Awdur: Dewi Morgan