11 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 384 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod perfformiad yr
adran yn parhau i fod yn dda. Diolchwyd i staff yr adran am y gwaith arwrol
maent wedi ei wneud dros y pandemig yn cefnogi
ysgolion. Ategwyd fod cydnabyddiaeth am waith yr adran wedi ei amlygu gan
benaethiaid y sir yn ogystal ac Estyn. Mynegwyd fod y berthynas rhwng yr adran
ar ysgolion yn sicr wedi cryfhau yn ystod y cyfnod anodd.
Tynnwyd sylw at Strategaeth Addysg Ddigidol, gan
ddiolch i’r Cabinet am eu cefnogaeth i’r gwaith arloesol sydd yn symud yn ei
flaen. Nodwyd fod y cyfnod pandemig wedi dal dau
gynllun yn ei ôl sef Cynllun Ôl 16 a Cyd-Weithio Rhwng Ysgolion Uwchradd
Meirionydd. Eglurwyd y bydd y gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu pan yn dod
allan o gyfnod y pandemig.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd i’r adran a’r
Ysgolion am ei gwaith arbennig dros gyfnod y pandemig.
¾
Tynnwyd sylw ar Ysgol y
Garnedd gan nodi fod y cynllun hwn yn adlewyrchu uchelgais y Cyngor o beth
mae’r adran eisiau ei ddarparu i blant Gwynedd.
¾
Diolchwyd i’r adran am roi
arweiniad i’r ysgolion ac i sicrhau diogelwch plant a pobl ifanc.
Awdur: Garem Jackson