6 Cais Rhif C20/0649/44/LL Tir ger Gelert, Penamser, Porthmadog, LL49 9NX PDF 396 KB
Cais ar gyfer gosod pwerdy
~5MWe nwy wrth gefn gyda isadeiledd cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
Rhesymau
Cofnod:
Cais ar gyfer gosod
pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gydag
isadeiledd cysylltiol
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli cyfleuster gorsaf
cynhyrchu trydan yn gyflym ac hyblyg hyd at 5MWe ynghyd a gwaith cysylltiedig i
gynnwys camerâu cylch-cyfyng, cabanau amwynder, ciosg nwy, tanciau, ffensio ac
adeiladwaith amrywiol ar dir wrth ochr safle Gelert,
Parc Busnes Penamser ar gyrion Porthmadog. Ategwyd bod
y safle o fewn parth llifogi C1 ac yn safle
Cyflogaeth i’w warchod fel y diffinnir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Byddai’r bwriad, o'i ganiatáu, yn galluogi cynhyrchu
trydan mewn amser byr pe byddai ei angen a phan na all y rhwydwaith lleol ei
gynhyrchu. Eglurwyd y byddai’r cyfleuster yn rhedeg (er yn achlysurol) oddi ar
nwy, ac felly yn ddibynadwy ar danwydd ffosil. Cydnabuwyd fod ceisiadau tebyg
wedi eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn lleoliadau eraill ar y
sail y byddent yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a gellid ei ddefnyddio
pan nad yw’r cyflenwad adnewyddol yn ddigonol o fewn
y rhwydwaith lleol. Erbyn hyn, mae cynigion tebyg wedi cael eu gwrthod ar apêl
oherwydd eu dibyniaeth ar danwydd ffosil mewn amgylchiadau ble mae cynghorau
wedi datgan argyfwng hinsawdd a ble mae diffyg tystiolaeth am yr angen i greu
egni trwy losgi tanwydd ffosil. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cydnabod a
datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mawrth 2019 ac yn hyrwyddo lleihau defnydd o
garbon fel rhan o’u strategaeth.
I leddfu effeithiau newid hinsawdd, caniateir cynigion
ar yr amod y gellid dangos bod ystyriaeth ac ymateb lawn i’r meini prawf sy’n
cynnwys yr hierarchaeth ynni sy’n hyrwyddo lleihau’r galw am ynni,
effeithlonrwydd ynni a defnyddio technolegau ynni carbon isel neu ynni di
garbon lle bo hynny’n ymarferol manteisio
i’r eithaf cyfraniad o dechnoleg ynni adnewyddadwy neu garbon isel i fodloni
gofynion y cynnig am drydan a gwres. Amlygwyd
bod datganiadau wedi eu cyflwyno gan yr asiant ond nad oedd tystiolaeth am
angen penodol i’r ddarpariaeth yma, nac y byddai modd darparu’r cyflenwad drwy
fodd arall carbon isel neu adnewyddadwy.
Nid oedd y bwriad gerbron yn
cynnig defnydd cyflogaeth, heibio’r cyfnod o osod y
cyfarpar, ac er y cydnabuwyd bod y safle bwriedig yn
fychan a lletchwith, ac unedau gwag o fewn y parc busnes, nid oedd cyfiawnhad
penodol ar gyfer y bwriad ac na ellid cadarnhau bod colled o dir cyflogaeth yn
dderbyniol yn nhermau polisïau PS13, CYF 1 na CYF 3 o’r CDLl.
Ategwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogi C1 a’r bwriad yn un ar gyfer darparu pwerdy nwy ar
gyfer creu trydan, sydd yn ôl diffiniadau a gynhwysir o fewn Nodyn Cyngor
Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yn ddatblygiad sy’n agored iawn i
niwed.
Yn gryno, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail diffyg cyfiawnhad ar ei gyfer, bod ei leoliad o fewn tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6