7 Cais Rhif C21/0934/15/AC Glyn Rhonwy, Pumped Storage, Glyn Rhonwy, Llanberis, LL55 4EL PDF 527 KB
Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio
cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol
rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf
Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol
AELODAU LLEOL: Cynghorwyr
Kevin Morris Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn Jones, Sion Wyn Jones a
Berwyn Parry Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol.
Cofnod:
Cais ar gyfer
diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell
cyswllt grid 132KV tanddaearol
rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn
ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod hyd y cysylltiad yn mesur
oddeutu 9km ac yn gwbl danddaearol - yn rhedeg o fewn
safle Glyn Rhonwy tuag at yr is-orsaf
ym Mhentir. Eglurwyd bod y ceblau yn cael eu
gosod o fewn dwythell wedi ei
warchod mewn dyfnder o 1.7m yn y ffos.
Atgoffwyd yr
Aelodau mai cais i newid amod
1 o ganiatâd cynllunio
C16/0886/15/LL er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol oedd gerbron, heb
newid i’r cynllun gwreiddiol. O ganlyniad, roedd egwyddor y bwriad eisoes wedi ei
dderbyn a’i sefydlu gan yr
Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd
cynllunio C16/0886/15/LL. Er
hynny, amlygwyd yr angen i
ystyried os oedd amgylchiadau neu’r sefyllfa polisi cynllunio wedi newid ers
caniatáu’r cais yn wreiddiol. Ategwyd
pwysigrwydd asesu a chadarnhau os yw’r
sefyllfa, yn nhermau cydymffurfio â’r Polisïau Cynllunio,
yn parhau i fod yr
un fath.
Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais gwreiddiol
ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ond sydd bellach wedi
ei ddisodli gan y Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd, felly, rhaid oedd ystyried unrhyw
newidiadau materol yn y polisïau ers
penderfynu’r cais blaenorol. Eglurwyd mai’r polisïau perthnasol oedd yn ymwneud a derbynioldeb
egwyddor y cais diweddarafoedd Polisi ISA 1 ‘Darpariaeth Isadeiledd’ a PS 7 ‘Technoleg Adnewyddadwy’.
Nodwyd bod rhan
o'r bwriad yn arwain drwy'r
Ardal Tirwedd Arbennig 'Ymylon Gogledd-orllewin Eryri', yn gyfan gwbl
o fewn tirwedd hanesyddol eithriadol 'Dinorwig' ac union gyferbyn Ardal Treftadaeth y Byd 'Ardal y Llechi'.
Drwy hynny, ystyriwyd fod y bwriad i osod
y llinell gyswllt tan ddaearol yn cyd
fynd ag arweiniad ym mholisi PS 7 ac yn parhau i
gydymffurfio gyda pholisïau perthnasol
b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd Aelod Lleol
ward Cwm y Glo, y Cynghorydd Berwyn P Jones nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais.
c) Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais
PENDERFYNWYD Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol.
1. 5 mlynedd
2. Cwblheir y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 22/10/2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei diwygio
wedi ei gynnwys
ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf
y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid
cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C16/0886/15/LL.