10 Cais rhif C21/0820/30/LL Cwrt, Uwchmynydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DA PDF 303 KB
Codi estyniad i'r sied wartheg
bresennol ac addasiadau i greu storfa dail ac iard fwydo dan do
AELOD LLEOL:
Cynghorydd W Gareth Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn canlyniad
boddhaol i'r Prawf Effaith Arwyddocaol Tebygol ar y safleoedd dynodedig
cyfagos.
Amodau
Nodiadau : Cyfoeth
Naturiol Cymru
Uned
Draenio Tir
Angen
gwarchod y llwybr cyhoeddus
COFNODION:
Codi estyniad i'r sied wartheg
bresennol ac addasiadau i greu storfa dail ac iard fwydo dan do.
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai bwriad y cais oedd codi estyniad i sied wartheg
bresennol er mwyn creu storfa dail ac iard fwydo dan do. Eglurwyd y byddai'r
estyniad yn 36.3m o hyd a 10.9m o led ac yn 4.7m o uchder at frig y to ac wedi
ei ffurfio gan baneli cladin lliw llwyd ar wal isel o goncrid gyda’r to o
ddeunydd proffil lliw llwyd.
Cyflwynwyd y cais i'r
Pwyllgor Cynllunio gan i’r ymgeisydd fod yn Aeod
Etholedig o’r Cyngor
Eglurwyd na
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd
yn briodol ar gyfer y safle ac na fyddai’n debygol o achosi effeithiau andwyol
annerbyniol ar fwynderau lleol, bioamrywiaeth nag asedau treftadaeth.
b)
Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i
dderbyn canlyniad boddhaol i'r Prawf Effaith Arwyddocaol Tebygol ar y safleoedd
dynodedig cyfagos.
Amodau
1. 5 mlynedd
2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda’r
cynlluniau a gymeradwywyd
3. Dim gwaith clirio safle yn ystod y
tymor nythu adar heb gytundeb ymlaen llaw.
Nodiadau : Cyfoeth Naturiol Cymru
Uned Draenio Tir
Angen gwarchod y llwybr
cyhoeddus