Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/03/2022 - Y Cyngor (eitem 18)

18 YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 82 KB

(i)            Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyr gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 7 Hydref, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn ffurfiol fel gŵyl banc yng Nghymru.

(ii)           Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gethin Glyn Williams i gyfarfod 2 Rhagfyr, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chreu coetiroedd yng Nghymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth:-

 

(a)     Llythyr gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 7 Hydref, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn ffurfiol fel gŵyl banc yng Nghymru.

 

(b)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ryubdd o gynnig y Cynghorydd Gethin Glyn Williams i gyfarfod 2 Rhagfyr, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chreu coetiroedd yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet (eitem 6)

6 DATHLU DYDD GWYL DEWI pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a.    Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.

b.    Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.
  2. Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref wedi penderfynu gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i’w gweithlu ynghyd a galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli y grym i Lywodraeth Cymru i fedru creu gwyliau banc i Gymru fel y drefn sydd i’w gweld eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pwysleisiwyd fod y penderfyniad a wnaethpwyd yn y Cyngor Llawn yn un unfrydol a trawsbleidiol a oedd yn dangos awydd clir i weithredu.

 

Eglurwyd nad oedd y mater yn un hawdd a fod cost ynghlwm a’r penderfyniad ond diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Cyllid am wneud y gwaith ymarferol i wneud hyn yn bosib.

 

Mynegwyd fod y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth San Steffan yn ymateb i’r lythyr y Cyngor yn warthus ac yn arddangos anealltwriaeth lwyr o ddatganoli a Chymru. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn deall fod rhai unigolion yn anghytuno gyda’r penderfyniad oherwydd y gost i Gyngor Gwynedd, ond ei fod yn rhoi’r cyfle i ddangos gwerthfawrogiad i staff y cyngor am eu gwaith yn ystod y cyfnod y pandemig. Ychwanegwyd fod cefnogaeth wedi ei dderbyn gan unigolion ar draws y wlad ac fod angen ei weld fel cyfle i ddefnyddio yr ŵyl banc i roi hwb i’r economi. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru i ddilyn Cyngor Gwynedd ac i alw am yr hawliau i’w galluogi i sicrhau fod Dydd Gŵyl Dewi yn troi yn Ŵyl Banc Cenedlaethol.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr adroddiad yn egluro fod modd i’r Cyngor allu ystyried gwneud y penderfyniad i roi diwrnod ychwanegol o Wyliau Banc i rhan helaeth o weithlu’r Cyngor, ond gan fod amodau gwaith Athrawon yn cael ei penderfynu yn genedlaethol nad oes modd eu cynnwys yn y penderfyniad hwn. O ganlyniad nodwyd fod y penderfyniad yn berthnasol i holl staff y Cyngor gan eithrio Athrawon.

 

Yn dilyn y penderfyniad bydd 1 Mawrth yn cael ei gyfri fel Gŵyl Banc arferol, gan nodi y bydd lleoliadau megis llyfrgelloedd ar gau ond y bydd gwasanaethau gofal yn parhau. Eglurwyd y bydd y staff fydd yn gweithio yn cael diwrnod o wyliau ychwanegol neu addasiad cyflog, ac fod y £200,000 yn cynnwys ystyriaeth o’r holl ffactorau. Eglurwyd o ran ail ran y penderfyniad fod hyn yn rhoi hawl i Swyddogion barhau gyda’r trafodaethau a undebau i drafod y syniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6

Awdur: Geraint Owen