18 YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 82 KB
(i)
Cyflwyno,
er gwybodaeth – Llythyr gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i rybudd o
gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 7 Hydref, 2021 o’r Cyngor ynglŷn
â chydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn ffurfiol
fel gŵyl banc yng Nghymru.
(ii)
Cyflwyno,
er gwybodaeth – Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y
Cynghorydd Gethin Glyn Williams i gyfarfod 2 Rhagfyr, 2021 o’r Cyngor ynglŷn
â chreu coetiroedd yng Nghymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd er gwybodaeth:-
(a) Llythyr
gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elwyn
Edwards i gyfarfod 7 Hydref, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chydnabod Dydd
Gŵyl Dewi yn ffurfiol fel gŵyl banc yng Nghymru.
(b) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ryubdd o gynnig y Cynghorydd Gethin Glyn
Williams i gyfarfod 2 Rhagfyr, 2021 o’r Cyngor ynglŷn â chreu coetiroedd
yng Nghymru.
6 DATHLU DYDD GWYL DEWI PDF 452 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a.
Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o
wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr
llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu
yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.
b.
Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau
posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal
trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am
gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym
iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNWYD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref wedi penderfynu gofyn
i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod
o wyliau i’w gweithlu ynghyd a galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli y
grym i Lywodraeth Cymru i fedru creu gwyliau banc i Gymru fel y drefn sydd i’w
gweld eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pwysleisiwyd fod y penderfyniad a
wnaethpwyd yn y Cyngor Llawn yn un unfrydol a trawsbleidiol a oedd yn dangos
awydd clir i weithredu.
Eglurwyd
nad oedd y mater yn un hawdd a fod cost ynghlwm a’r penderfyniad ond diolchwyd
i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Cyllid am wneud y gwaith
ymarferol i wneud hyn yn bosib.
Mynegwyd
fod y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth San Steffan yn ymateb i’r lythyr y
Cyngor yn warthus ac yn arddangos anealltwriaeth lwyr
o ddatganoli a Chymru. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn deall fod rhai
unigolion yn anghytuno gyda’r penderfyniad oherwydd y gost i Gyngor Gwynedd,
ond ei fod yn rhoi’r cyfle i ddangos gwerthfawrogiad i staff y cyngor am eu
gwaith yn ystod y cyfnod y pandemig. Ychwanegwyd fod
cefnogaeth wedi ei dderbyn gan unigolion ar draws y wlad ac fod angen ei weld
fel cyfle i ddefnyddio yr ŵyl banc i roi hwb i’r economi. Gofynnwyd i
Lywodraeth Cymru i ddilyn Cyngor Gwynedd ac i alw am yr hawliau i’w galluogi i
sicrhau fod Dydd Gŵyl Dewi yn troi yn Ŵyl Banc Cenedlaethol.
Ychwanegodd
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr adroddiad yn egluro fod modd
i’r Cyngor allu ystyried gwneud y penderfyniad i roi diwrnod ychwanegol o
Wyliau Banc i rhan helaeth o weithlu’r Cyngor, ond gan fod amodau gwaith
Athrawon yn cael ei penderfynu yn genedlaethol nad oes modd eu cynnwys yn y
penderfyniad hwn. O ganlyniad nodwyd fod y penderfyniad yn berthnasol i holl
staff y Cyngor gan eithrio Athrawon.
Yn dilyn y penderfyniad bydd 1 Mawrth yn cael ei gyfri fel Gŵyl Banc arferol, gan nodi y bydd lleoliadau megis llyfrgelloedd ar gau ond y bydd gwasanaethau gofal yn parhau. Eglurwyd y bydd y staff fydd yn gweithio yn cael diwrnod o wyliau ychwanegol neu addasiad cyflog, ac fod y £200,000 yn cynnwys ystyriaeth o’r holl ffactorau. Eglurwyd o ran ail ran y penderfyniad fod hyn yn rhoi hawl i Swyddogion barhau gyda’r trafodaethau a undebau i drafod y syniad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Geraint Owen