6 PENODI SWYDDOGION STATUDOL Y CBC PDF 126 KB
I benodi,
a) Prif Weithredwr
b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran
151’)
c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol
Penderfyniad:
Penodwyd y
Swyddogion Statudol canlynol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn
weithredol o 14 Ionawr 2022 o leiaf hyd nes y bydd y trefniadau'n cael eu
adolygu ym mis Mehefin 2022:
a) Prif Weithredwr – Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)
b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’) – Dewi Morgan (Cyngor
Gwynedd)
c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol – Iwan Evans (Cyngor Gwynedd).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol y Prosiect).
PENDERFYNIAD
Penodwyd y Swyddogion Statudol canlynol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn weithredol o 14 Ionawr 2022 o leiaf hyd nes y bydd y trefniadau'n cael eu adolygu ym mis Mehefin 2022:
a) Prif Weithredwr – Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)
b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’) – Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd)
c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol – Iwan Evans (Cyngor Gwynedd).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn sefydlu Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac o ganlyniad i hyn mynegwyd fod angen i’r Cyd-Bwyllgor wneud trefniadau priodol yn y cyfarfod cyntaf. Eglurwyd ymysg y trefniadau priodol cyntaf fod rhaid i’r Cyd-Bwyllgor benodi ei Swyddogion Statudol.
Eglurwyd fod Rheoliadau Cyd-Bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (rhif 2) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi tri swyddog statudol yn cynnwys Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mynegwyd fod Rheoliadau Sefydlu yn caniatáu hyblygrwydd sut y gall y Cyd-Bwyllgor gyflogi staff, hynny yw gall gael eu cyflogi yn uniongyrchol neu drwy drefniadau gydag awdurdodau cyfansoddiadol. Nodwyd fod Cyngor Gwynedd eisoes yn darparu Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sydd â swyddogaethau gallai drosglwyddo i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn ystod 2022/23. Yn ogystal ategwyd fod Cyngor Gwynedd eisoes yn darparu Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor.
Pwysleisiwyd er mwyn i’r Cyd-Bwyllgor symud ymlaen argymhellwyd y dylai swyddogion statudol gael eu darparu gan Gyngor Gwynedd am y tro, tra fod y Cyd-Bwyllgor yn cael ei sefydlu, gan nodi y gellir adolygu’r trefniadau dros dro a cyflwyno adroddiad pellach ar yr opsiynau posib ar gyfer penodi’r swyddogaethau ar sail parhaol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd i Cyngor Gwynedd am gymryd y rôl ar ran y Rhanbarth.