7 MABWYSIADU RHEOLAU SEFYDLOG A CHYFANSODDIAD CBC PDF 266 KB
I ystyried
a mabwysiadu rheolau sefydlog a chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Mabwysiadwyd Rheolau Sefydlog Cychwynnol ar
gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig a derbyn y cyfeiriad ynglŷn a sefydlu
Cyfansoddiad.
2.
Dirprwywyd hawl i’r Swyddog Monitro i
wneud newidiadau golygyddol i’r Rheoliadau Sefydlog ar gyfer eu cyhoeddi gan
nodi’r angen i ail ymweld a’r Rheolau Sefydlog unwaith y bydd canllawiau’r
Llywodraeth wedi’i cadarnhau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans (Swyddog Monitro).
PENDERFYNWYD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Rheoliadau Cyd-Bwyllgor Corfforedig
Gogledd Cymru 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyd-Bwyllgor wneud Rheoliadau
Sefydlog er mwyn rheoleiddio ei weithrediadau a busnes. Gan gynnwys Rheoliadau
sefydlu’r Cyd-Bwyllgor ar y 1af Ebrill 2021, nodwyd eisoes fod tri set o
reoliadau llywodraethu wedi dod i rym. Ychwanegwyd fod 2 set o Reoliadau
Cyffredinol wedi mabwysiadu gyda ymgynghoriad ar Reoliadau (3ydd)
ychwanegol wedi cau cyn y Nadolig.
Mynegwyd fod disgwyliad y bydd y Rheoliadau ychwanegol yn dod i rym yn y
Gwanwyn. Eglurwyd felly fod sefydlu trefniadau cyfansoddiadau yn gorfod ymateb
a datblygu gyda cefndir o sefyllfa gyfreithiol sydd yn parhau i esblygu.
Tywyswyd drwy’r Rheolau Sefydlog gan amlygu fod yr Aelodaeth yn cynnwys
6 Arweinydd Cynghorau Cyfansoddiadau sydd â hawl gweithredu holl swyddogaethau,
Cynrychiolydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd â hawl gweithredu ar
faterion sy’n ymwneud â’r Swyddogaeth Cynllun Datblygu Strategol yn unig,
ynghyd ag Aelodau Cyfetholedig a benodir gan y Cyd-Bwyllgor fydd â hawl
gweithredu yn unol â’r gytundeb penodi. Eglurwyd o ran y cyfarfodydd y
bydd y cyfarfodydd yn agored a bydd modd
i’r wasg a’r cyhoedd gael mynediad, ychwanegwyd y bydd angen creu calendr
cyfarfodydd. Amlygwyd fod angen 5 aelod fod yn bresennol er mwyn cael cworwm ac
y bydd rhaid i’r aelodau ddynodi eilydd.
Eglurwyd o ran y drefn pleidleisio y bydd yn dilyn trefn mwyafrif syml,
ond y bydd angen pleidlais unfrydol ar gyfer pennu cyfraniadau at y gyllideb a
newid y trefniadau pleidleisio. Nodwyd yn ogystal na fydd pleidlais fwrw oni
bai ar faterion Cynllun Datblygu Strategol. Eglurwyd y bydd datganiadau o’r
penderfyniadau yn cael ei cyhoeddi ond na fyddent yn ddarostyngedig i alw i
mewn. Ond nodwyd y disgwylir rheoliadau ar y trefniadau trosolwg a chraffu gael
eu cyhoeddi a olygai y gallai hyn newid.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Holwyd sut y bydd y
Cyd-Bwyllgor yn creu Is-Bwyllgorau. Nodwyd y bydd yn benderfyniad y
Cyd-Bwyllgor ac y bydd angen creu Cylch Gorchwyl i’r Is-Bwyllgor ynghyd a
hawliau dirprwyedig.
¾
Mynegwyd fod cael trefn
craffu yn holl bwysig ac fod angen cael trefniadau cadarn a mecanwaith er mwyn
datblygu. Pwysleisiwyd y bydd y Rheolau Sefydlog yn parhau i esblygu dros
amser.
¾
Pwysleisiwyd mai Rheolau
Sefydlog cychwynnol a gyflwynwyd i’r Cyd-Bwyllgor ac eglurwyd y byddant yn dod
yn ôl i’r Cyd-Bwyllgor am ystyriaeth bellach yn dilyn unrhyw addasiadau ac
unrhyw ddyblygiadau unwaith y bydd canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru.