8 BLAEN RAGLEN WAITH Y CBC PDF 76 KB
I ystyried a chymeradwyo blaen raglen waith
Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edward (Swyddog
Arweiniol y Prosiect).
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y
Gogledd.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Flaen Raglen yn
rybudd o beth fydd yn cael ei drafod dros y misoedd nesaf. Nodwyd y bydd angen
i’r cyfarfod nesaf, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gymeradwyo ei
gyllideb am 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Eglurwyd fod y nifer o eitemau i’w
trafod dros y misoedd nesaf ac y bydd addasiadau i’r Flaen Raglen wrth i amser
fynd yn ei blaen.