Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/01/2022 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd (eitem 8)

8 BLAEN RAGLEN WAITH Y CBC pdf eicon PDF 76 KB

I ystyried a chymeradwyo blaen raglen waith Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.



 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edward (Swyddog Arweiniol y Prosiect).

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Flaen Raglen yn rybudd o beth fydd yn cael ei drafod dros y misoedd nesaf. Nodwyd y bydd angen i’r cyfarfod nesaf, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gymeradwyo ei gyllideb am 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Eglurwyd fod y nifer o eitemau i’w trafod dros y misoedd nesaf ac y bydd addasiadau i’r Flaen Raglen wrth i amser fynd yn ei blaen.