BWRDD NEWID HINSAWDD
I enwebu
aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd Newid Hinsawdd.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Mike
Stevens i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd.
Cofnod:
Nodwyd yn dilyn y drafodaeth yng nghyswllt aelodaeth y Bwrdd Newid Hinsawdd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Medi 2021, o dan yr eitem ‘Newid Hinsawdd’, derbyniwyd cais i ethol aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd.
Eglurwyd bod y Bwrdd wedi gwahodd y Cynghorydd Angela Russell fel y Pencampwr Bioamrywiaeth, ac yn estyn gwahoddiad i’r Pwyllgor enwebu un aelod arall oedd gyda diddordeb yn y maes ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith.
PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Mike Stevens i
gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd.
Ar derfyn y
cyfarfod, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i Natalie Lloyd Jones (Swyddog
Gwasanaethau Democratiaeth) am ei gwaith. Dymunwyd yn dda iddi ar gyfer y
dyfodol.