5 CYLLIDEB GWE 2021-22 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER PDF 385 KB
Adroddiad gan
Reolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Trafodaeth
Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Cyllid yn diweddaru’r aelodau ar
adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar
yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth
ariannol gyflawn.
Mewn ymateb i gais
am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r bwriad i wneud defnydd o £100,000
ychwanegol yn erbyn y pennawd grant gwella ysgolion cyffredinol, eglurodd y
Rheolwr Gyfarwyddwr:-
·
Bod
y tanwariant dros y 2 flynedd ddiwethaf, yn ystod y pandemig,
ychydig dros £250,000, ac yn ddelfrydol, y dymunid symud yn ôl tuag at y
sefyllfa hynny, gan fod angen i’r arian fod yn yr ysgolion.
·
Bod
yr ysgolion yn wynebu heriau trawsffurfio sylweddol ar hyn o bryd, gyda
dyfodiad y cwricwlwm newydd, yr uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050, Rhaglen Trawsnewid ADY a’r gwaith sylweddol sydd angen ei gwblhau
ym maes asesiadau, ynghyd ag ystyriaethau llesiant ac arweinyddiaeth.
·
Mai
un o’r heriau yn wynebu ysgolion ar hyn o bryd oedd prinder athrawon
llanw. Fodd bynnag, golygai hyn
fuddsoddi yn y tymor hwy, fel bod gan yr ysgolion yr adnodd ariannol i
gynllunio’r prif flaenoriaethau hyn o fewn eu cynlluniau datblygu
ysgolion. Gan hynny, wrth i’r pandemig gilio, byddai mwy o gyflenwad yn dod ar gael, fel
bod modd i’r ysgolion adeiladu mwy o gapasiti i mewn
i’w strwythurau cynllunio i wneud y newidiadau hynny.