CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
I ystyried cais gan
Mr A
(copi arwahan i
aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud yn unol â pholisi
trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y
meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd
drwy sicrhau:
• Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
` Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais
a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd
i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar
droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor ganiatau y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am
gefndir y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Nododd mai un digwyddiad oedd yma
ac nad oedd yn adlewyrchu ei gymeriad. Roedd ei amgylchiadau ar y pryd yn
anodd, ond ers hynny wedi troi ei fywyd o gwmpas gan fynychu coleg, cael gwaith
a bellach yn ceisio cynnal ei deulu.
PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau
ar lafar gan yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn mis Ionawr 2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ieuenctid Conwy o glwyfo/achosi niwed corfforol difrifol yn groes i Ddeddf
Troseddau yn erbyn y Person 1861. Derbyniodd yr ymgeisydd ddirwy o £100, costau
o £15 a Gorchymyn Cyfeirio 12mis.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o
Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am
drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod
yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a
dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae
paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu
fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff
y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5