7 ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2021/22 PDF 112 KB
Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r
adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn
ystod 2021/22, a’i fabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor
gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 fel darlun
clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22.
Yn ystod ei
gyflwyniad, cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiannau megis datblygu Cynllun
Adfywio, adeiladu Ysgol y Garnedd newydd a mabwysiadu Cynllun Newid
Hinsawdd. Cyfeiriodd hefyd at lefydd i
wella, megis y methiant i gyfarch y cwestiwn addysg ôl-16 yn Arfon, ond roedd
yn hyderu’n fawr y byddai hynny’n flaenoriaeth yn y blynyddoedd nesaf yng
Nghynllun newydd y Cyngor. Nododd hefyd
y bu oedi yn Nalgylch Cricieth ar ddatblygiad ysgol newydd oherwydd gorfod
cynnal archwiliad archeolegol.
Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at y crynodeb o waith dydd i ddydd y
gwasanaethau ar ddiwedd yr adroddiad, gan ddiolch i swyddogion y Gwasanaeth
Cynllunio am eu gwaith gwych yn paratoi ymchwil a datrysiadau yn y maes
ail-gartrefi. Nododd hefyd, gan fod y
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn dod i ben, bod angen ail edrych ar y
trefniadau cydweithio, ac eglurodd, yn sgil trafodaethau rhwng swyddogion cynllunio
Gwynedd a Môn, y daethpwyd i’r casgliad y dylid argymell bwrw ymlaen gyda
phroses i ddirwyn y trefniant presennol i ben, a hynny o ganlyniad i’r
newidiadau i’r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
ers sefydlu’r trefniant cydweithio yn 2001.
Eglurodd ymhellach y byddai’r ddau gyngor yn parhau i gydweithio’n agos
gyda threfniadau monitro’r hen Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ynghyd ag
unrhyw gyfleoedd eraill fyddai’n amlygu eu hunain. Byddai’r mater yn cael ei gyflwyno i Gabinet
Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ar 19 Gorffennaf, a phetai’r ddau gorff yn cydsynio, byddai’r ddwy sir yn
llunio eu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar wahân.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Gan gyfeirio at uchafbwyntiau’r flwyddyn ar dudalen
16 o’r rhaglen, holwyd sut roedd perfformiad y Cyngor o ran ailgylchu,
ailddefnyddio neu gompostio gwastraff cartrefi yn cymharu â’r targed, ac yn
arbennig targed tirlenwi Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb, nodwyd bod perfformiad Gwynedd dros 64% ar hyn o bryd, o
gymharu â’r targed statudol o 70% erbyn Mawrth 2025. Gwelwyd llithriad, o bosib’, dros y cyfnod
Cofid yn y gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gynhyrchu, ac roedd angen
atgoffa’r trigolion am y gwasanaeth casglu bwyd ac ailgylchu. Ymhellach na hynny, byddai’n rhaid edrych ar
raglen waith i symud yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed
statudol. O safbwynt tirlenwi, eglurwyd
nad oedd unrhyw wastraff yn mynd i dirlenwi bellach a bod yr holl wastraff
gweddilliol yn cael ei losgi ym Mharc Adfer, y Fflint fel rhan o bartneriaeth
ar y cyd rhwng cynghorau’r Gogledd.
· Gan gyfeirio at y sylw at dudalen 19 o’r rhaglen bod yr argyfwng costau byw “wedi gorfodi’r Cyngor i ddargyfeirio adnoddau ac addasu gan ymrwymo i waith a phrosiectau newydd”, holwyd a oedd ein cyllideb yn ddigon cadarn i wynebu’r heriau hyn, neu a fyddai’n rhaid ail-edrych ar y mater. Holwyd hefyd, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7